MANYLION
  • Lleoliad: Ty Penallta,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Seicolegydd Addysg

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Seicolegydd Addysg
Disgrifiad swydd
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI

DYSGU, ADDYSG A CHYNHWYSIANT

GWASANAETH SEICOLEG ADDYSG

SEICOLEGYDD ADDYSGOL: 1 swydd llawn amser barhaol

Graddfa Soulbury: 3-8 (hyd at 3 Pwynt Cyflog yn ychwanegol)

Cyflog: 42,811– 52,440 pro rata

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Caerffili yn ehangu er mwyn ychwanegu at ein tîm, sydd eisoes yn gryf, o Seicolegwyr Addysg a Seicolegwr Addysg cynorthwyol. Rydyn ni am benodi Seicolegwyr Addysg sy’n awyddus i weithio mewn gwasanaeth bywiog, arloesol a myfyriol.

Rydyn ni'n awyddus i glywed gan Seicolegwyr sydd am fod yn rhan o ystod eang o brosiectau a mentrau yn ogystal â gwaith mewn ysgolion. Os ydych chi'n ymarferydd sy'n llawn cymhelliant i ddylanwadu ar arferion cynhwysol ac yn meddwl am yr effaith y gall seicolegwyr addysg ei chael ar draws systemau, byddai gennym ni ddiddordeb mewn clywed gennych chi.

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg eisoes yn dîm sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn yr Awdurdod Lleol. Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill i ddarparu model hyblyg a chreadigol o gyflenwi gwasanaethau sydd â ffocws ar les wrth ei wraidd. Rydyn ni'n cynnig model darparu gwasanaeth sy’n seiliedig ar ymgynghori, ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer gwaith achos manwl a gwaith systemig a gwaith prosiect ac ymchwil arloesol, gan weithio ochr yn ochr â’n tîm mawr o Seicolegwyr Addysg Cynorthwyol medrus. Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Caerffili wedi ymrwymo i feithrin gallu mewn ysgolion, ac mae'r gwasanaeth yn cynnig amrywiaeth o becynnau hyfforddi a chymorth i ddiwallu anghenion lleol megis Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol, Thrive, ymarfer sy'n seiliedig ar ymlyniad/trawma a grwpiau therapi gwybyddol ymddygiadol.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnig pecyn gweithio oriau hyblyg a gwyliau deniadol iawn, i hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

Os ydych chi'n ymarferwr creadigol sy'n canolbwyntio ar atebion, rydyn ni'n awyddus i glywed gennych chi.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kyla Honey, Prif Seicolegydd Addysg, ar 07544 276540 neu Dermot McChrystal, Dirprwy Brif Seicolegydd Addysg, ar 07728 361277

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys yn broffesiynol ac wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Rydyn ni hefyd yn awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth Seicolegwyr Addysg dan Hyfforddiant yn eu blwyddyn olaf. Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 26 Hydref 2023. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 7 Tachwedd 2023.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.