MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Dysgu – Cymorth i Grwpiau Agored i Niwed

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddog Cymorth Dysgu - Cymorth i Grwpiau Agored i Niwed
Disgrifiad swydd
32.5 yr awr
Yn ystod tymor yr ysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant ac angerddol i ymuno â'n tîm sy'n rhoi allgymorth i ddisgyblion y mae Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt a/neu Blant a Phobl Ifanc o'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr mewn ysgolion ar draws CBS Pen-y-bont ar Ogwr gan hyrwyddo cynhwysiant a derbyn ar gyfer yr holl ddisgyblion. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i gynorthwyo'r holl blant, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac wedi setlo yn ein cymunedau lleol.
Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion fod yn sensitif, yn dosturiol ac yn ofalgar i gynorthwyo integreiddio i'w hysgolion lleol. Bydd angen i chi fod yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar atebion i gynorthwyo plant i gael mynediad at addysg sy'n diwallu eu hanghenion gan eu harwain i ffynnu yn eu cymunedau lleol a gwella deilliannau addysgol.
Mae hwn yn gyfle i ddatblygu eich sgiliau ac os gennych y wybodaeth angenrheidiol wedi'i hategu gan y sgiliau perthnasol, hoffem glywed gennych. Yn gyfnewid, gallwn gynnig cyfle i chi wneud eich marc a chynnig cymorth i'r rhai mwyaf anghenus mewn amgylchedd cefnogol.
Os hoffech wybod rhagor am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Gail Biggs, Rheolwr Tîm Ymgysylltu ag Addysg ar 01656 815129 neu fel arall anfonwch neges e-bost i gail.biggs@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau: 04 Hydref 2023