MANYLION
  • Lleoliad: Adult Community Learning,
  • Testun: Tiwtor
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Tiwtor Oedolion - Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Tiwtor Oedolion - Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Disgrifiad swydd
Yn ôl y galw yn dibynnu ar hyfywedd cyrsiau
Cyfnod penodol
£12.95 yr awr (ynghyd â thaliad chwyddo ychwanegol oriau cyflwyno 50% – e.e. telir 3 awr am bob 2 awr o gyflwyno yn yr ystafell ddosbarth)
Mae Dysgu Cymunedol wrthi'n recriwtio Tiwtoriaid Oedolion ar hyn o bryd.  Yn sgil agenda ehangu cyfranogiad, mae angen tiwtoriaid rhan-amser newydd arnom i gyflwyno dosbarthiadau/sesiynau yn ystod y dydd a/neu gyda'r nos drwy gydol bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr (ar gyfer modelau cyflwyno wyneb yn wyneb, ar-lein a chyfunol – dylai ymgeiswyr allu cyfranogi yn yr holl fethodolegau cyflwyno) ar gyfer y cyrsiau canlynol:
Sgiliau Sylfaenol                                                               
Llythrennedd Digidol/TGCh Sylfaenol                                   
Ffotograffiaeth Ddigidol                                                        
Iaith Arwyddion                                             
Seicoleg Plant                                                            
Gwydr Lliw
Celf a Darlunio/Celf a Chrefft
Ffrangeg        
Cyfrifon/Cadw llyfrau
Troseddeg
Manwerthu
Crefftau Ffabrig
Sbaeneg
Garddwriaethol a Blodeuwriaeth       
Seicoleg
Byddem yn croesawu ffurflenni cais o feysydd pwnc eraill os yw'n briodol.
Bydd y sesiynau/cyrsiau yn ôl y galw a byddant yn amrywio o ran hyd a nifer y sesiynau.  Bydd cyrsiau'n cynnwys cyflwyno drwy amrywiaeth o fodelau cyflwyno – dull ar-lein, cyfunol ac wyneb yn wyneb a disgwylir i diwtoriaid roi cymorth parhaus i ddysgwyr drwyddi draw.
Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster proffesiynol a/neu brofiad yn y pwnc perthnasol.  Mae cymhwyster addysgol yn ofynnol hefyd, ac mae trwydded yrru lawn a mynediad i'ch trafnidiaeth eich hun yn hanfodol.  Mae'n un o amodau'r gyflogaeth bod ymgeiswyr ar lefel 2 mewn llythrennedd a rhifedd.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau:  29 Medi 2023

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr