MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Testun: Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Anifeiliaid
- Cytundeb:
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
- Iaith: Cymraeg
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd Amaethyddiaeth
Lleoliad: Llysfasi
Math o Gontract: Parhaol, Rhan Amser (0.4FTE, 14.8 awr yr wythnos)
Graddfa Gyflog: £29,162 - £45,077 (Pro Rata) (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch)
Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Ddarlithydd Amaethyddiaeth i ymuno â’n tîm Cyrsiau’r Tir. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar ein safle Llysfasi ac mae angen siaradwr Cymraeg.
Fel Darlithydd byddwch yn addysgu ac ysbrydoli ein dysgwyr wrth gyflwyno ystod o bynciau amaethyddol gan gynnwys hwsmonaeth da byw, cynhyrchu da byw gydag arbenigedd defaid ac arallgyferirio ar ffermydd. Mae ein safle Llysfasi wedi’i leoli ar fferm weithiol, gyda’r fantais o allu cyrchu’r dechnoleg ddiweddaraf yn ogystal â gweithio mewn lleoliad hardd.
Byddwch yn addysgu yn ôl amserlen, paratoi deunydd dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, ac yn cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau pan fo angen. Byddwch yn darparu arweiniad addysgol, cynorthwyo a chynnig cwnsela myfyrwyr wrth gymryd rhan mewn marchnata, cynllunio, asesu a gwerthuso darpariaeth y cwrs.
Byddwch hefyd yn cysylltu â thiwtoriaid eraill o feysydd busnes eraill o ran adnoddau, datblygu cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, wrth gwblhau a chynhyrchu dogfennaeth i derfynau amser y cytunwyd arnynt, gan gynnwys; cofrestrai, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cwrs, dogfennaeth dadansoddi cwrs, adroddiadau myfyrwyr ac adroddiadau absenoldeb.
Bydd gennych ymwybyddiaeth o bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu, a bydd gennych wybodaeth am ystod eang o anghenion dysgu a sut i gynorthwyo’r anghenion hynny mewn amgylchedd dysgu. Mae angen i chi arddangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol chi. Dylech fod yn agored ac ymatebol i anghenion eraill a gallu addasu’n gyflym i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd.
Gofynion Hanfodol
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig

- Bod â chymhwyster Lefel 5 mewn Amaethyddiaeth o leiaf neu bwnc perthnasol addas.
- Yn ddelfrydol byddwch yn athro cymwys gyda naill ai TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407 neu fod yn barod i weithio tuag at un ohonynt.
- Profiad mewn cynhyrchu da byw gydag arbenigedd defaid
- Gallu cyfathrebu yn rhugl (yn ysgrifenedig ac ar lafar) drwy gyfrwng y Gymraeg
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, aelod cadarn o dîm, arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.
- Gallu defnyddio rhaglenni Google a defnyddio’r we a’r rhyngrwyd.