MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtor Marchnata Digidol CIM Achlysurol

Coleg Penybont
Tiwtor Marchnata Digidol CIM Achlysurol

Disgrifiad o'r swydd Tiwtor Marchnata Digidol CIM Achlysurol
£23.50 yr awr

Oes gennych chi wybodaeth a phrofiad fel marchnatwr digidol yr hoffech chi eu rhannu? Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig cryf ei gymhelliant i rannu ei sgiliau a’i brofiad o’r diwydiant â myfyrwyr sy’n dilyn cymhwyster Lefel 3/4 mewn marchnata digidol ar hyn o bryd.

Eich Tasgau:
  • Cynllunio, paratoi a chyflwyno cyrsiau byr ar draws Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhannu profiad o’r diwydiant; gan drosglwyddo eich sgiliau a’ch gwybodaeth i’r rhaglenni dysgu ac asesiadau.
  • Goruchwylio man gweithio i sicrhau diogelwch.
Gofynion y Rôl:
  • Rhywun brwdfrydig a chreadigol sy’n gweithio’n dda ag eraill
  • Ethig gwaith rhagweithiol
  • Gallu naturiol i gefnogi ac ysgogi
  • Gradd mewn marchnata neu gymhwyster cyfwerth
  • Tystysgrif Hyfforddi Athrawon 7307 C&G neu PTLLS neu gyfwerth neu allu profedig i ddysgu ar y lefel yma.
  • Profiad o ddysgu cymwysterau proffesiynol/galwedigaethol.
  • Mwynhau datblygu perthnasau â myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth yn eu profiad dysgu.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.