MANYLION
  • Lleoliad: Ty Penallta,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Engagement and Monitoring Lead

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Engagement and Monitoring Lead
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n awyddus i recriwtio gweithiwr proffesiynol profiadol mewn ymgysylltu cymunedol i ymuno â thîm ymgysylltu’r Cyngor ar adeg gyffrous iawn o'n taith newid ni.

Bydd y swydd Arweinydd Ymgysylltu a Monitro yn ymuno â’r tîm am gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025 a bydd yn allweddol wrth helpu cynorthwyo’r gwaith o gyflawni rhaglen newid gynhwysol cyffrous a mentrus y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

Bydd gan y swydd, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gyfrifoldeb yn bennaf am ymgysylltu a monitro yn ôl themâu allweddol drwy raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y Cyngor.

Gan weithio fel rhan o'r tîm ymgysylltu corfforaethol ehangach, bydd deiliad y swydd yn helpu i adeiladu ar y ddeialog bresennol gyda'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, gan ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid eraill a'u cynnwys nhw wrth ddarparu rhaglenni newid allweddol – yn enwedig cynllun buddsoddi lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin – a'n amlygu cyfleoedd sy'n bodoli i gymryd rhan mewn penderfyniadau a'u dylanwadu nhw ar draws y meysydd hyn.

Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn arbenigo yn y canlynol:

Meithrin a chynnal perthnasoedd cryf gydag ystod eang o rhanddeiliaid – gan gynnwys yr Aelod o'r Cabinet a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, partneriaid y sector cyhoeddus, Llywodraeth y DU, y gymuned fusnes, cymunedau, a'r sector gwirfoddol.

Defnyddio dulliau arloesol i ddatblygu strategaethau ymgysylltu i sicrhau bod data a mewnwelediad cwsmeriaid/rhanddeiliaid yn ganolog i wneud penderfyniadau sy'n cydymffurfio â chynllun buddsoddi lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Hyrwyddo egwyddorion ymgynghori ac ymgysylltu effeithiol a phwrpasol ar draws y Cyngor, gan ganolbwyntio'n arbennig ar yr adran Adfywio a Chynllunio – y gwasanaeth cyflawni arweiniol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Cynorthwyo arferion gorau a gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y tîm Cydraddoldeb a'r Gymraeg i sicrhau cadw at y safonau uchaf.

Rhoi gwybod i randdeiliaid mewnol allweddol am y dulliau mwyaf effeithiol o ymgysylltu a monitro o ansawdd, gan gynnwys negeseuon a thechnegau priodol.

Sicrhau bod data a mewnwelediad yn ganolog i lywio ymyriadau wedi'u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a themau ehangach y rhaglen, a bod monitro effeithiol yn cael ei wneud yn unol â dyheadau’r gymuned a gofynion perfformio.

Sicrhau bod gweithgareddau ymgynghori'n cael eu gwneud i'r safon uchaf, yn unol â'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus yng Nghymru ac Egwyddorion Gunning.

Gweithio ochr yn ochr â'r tîm ymgysylltu corfforaethol ehangach i ddatblygu 'Trafodaeth Caerffili' parhaus y Cyngor ymhellach – gan ychwanegu gallu ac arbenigedd a sicrhau bod themau canolog y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu cyfleu drwy gydol y drafodaeth barhaus gydag ystod o randdeiliaid.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Hayley Lancaster ar 01443 864380.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.