MANYLION
  • Testun: Seicoleg
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Ymarferydd Seicoleg Addysg Arbenigol

Rhondda Cynon Taf
Ymarferydd Seicoleg Addysg Arbenigol

Disgrifiad Swydd
Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i'r Teulu

1 swydd amser llawn barhaol

1 swydd amser llawn ar gytundeb 2 flynedd ond bydd hyn yn cael ei hadolygu ar ddiwedd y cyfnod

Graddfa Soulbury ar gyfer Seicolegwyr Addysg – pwyntiau 2 i 7 a hyd at 3 phwynt SPA (bydd pwyntiau SPA blaenorol yn cael eu hanrhydeddu).

Bydd deiliaid y swydd yn gweithio mewn carfan amlddisgyblaethol yn rhan o gyfadran Gwasanaethau i Blant, Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i'r Teulu. Eich gwaith fydd darparu cyngor, cyfarwyddyd ac ymyrraethau sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth ochr yn ochr â chydweithwyr gwaith cymdeithasol a therapyddion teulu systemig.

Os oes gyda chi'r sgiliau perthnasol ac rydych chi'n brofiadol o ran gweithio gyda phlant a theuluoedd, yn ogystal â meddu ar yr wybodaeth a'r profiad o weithio gyda phobl ifainc sydd wedi dioddef o drawma, hoffen ni glywed gennych chi.

Byddwch chi'n cynorthwyo yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau effeithiol i blant a phobl ifainc, a'u teuluoedd/cynhalwyr (gofalwyr), sy'n wynebu heriau cymhleth, er mwyn ceisio osgoi:

  • Derbyn plant a phobl ifainc i wasanaethau gofal yn ddiangen. Cynorthwyo â gwaith dychwelyd y rheiny sydd eisoes yn derbyn gofal i'r cartref.
  • Trefniadau'n chwalu o ran lleoli plant a phobl ifainc sydd eisoes yn derbyn gofal ac sy'n methu a lleihau'r gofyn am symud rhwng lleoliadau.
A chithau'n Seicolegydd Addysg Arbenigol, bydd gofyn i chi weithio ledled Rhondda Cynon Taf gyda phlant a phobl ifainc o'r ardal sydd efallai'n byw y tu hwnt i ffiniau'r fwrdeistref. Os ydych chi'n unigolyn sy'n dymuno gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifainc, dyma beth rydyn ni'n ei gynnig i chi:

  • Telerau ac amodau gwaith da
  • Cymorth a goruchwyliaeth yn rheolaidd
  • Hyfforddiant pellach a datblygiad pellach parhaus ('DPP') yn ôl yr angen er mwyn cynnig dulliau therapiwtig penodol
  • Gweithio mewn gwasanaeth sy'n recriwtio a chadw staff.
Er bod y swydd yn ein Gwasanaethau i Blant, Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i'r Teulu, bydd cymorth a goruchwyliaeth yn cael eu darparu o Wasanaeth Seicoleg Addysg Integredig Rhondda Cynon Taf/Merthyr Tudful. Bydd hefyd y cyfle gyda chi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd DPP arbennig sy'n cael eu cynnig gan y garfan yma.

Mae'r gallu i weithio mewn dull hyblyg o ran oriau gwaith er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth a gweithio mewn modd sy'n cefnogi'r teulu yn hanfodol.

Os ydy'r cymwysterau, sgiliau a phrofiad angenrheidiol gyda chi, hoffen ni glywed oddi wrthoch chi.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Joanne Silver (Rheolwr Carfan – Arfer a Chyflawniad) neu Matthew Free (Rheolwr y Gwasanaeth) ar 01443 420940.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.