MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Medi, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtor Cwnsela Achlysurol - Therapydd Person-Ganolog

Coleg Penybont
Tiwtor Cwnsela Achlysurol - Therapydd Person-Ganolog

Disgrifiad o'r swydd Tiwtor Cwnsela Achlysurol - Therapydd Person-Ganolog
£23.50 yr awr

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliant i rannu eu gwybodaeth, eu doethineb a'u profiad er mwyn helpu myfyrwyr i ennill cymhwyster Agored Cymru gydnabyddedig. Gellir cyflwyno'r cyrsiau yn ystod y dydd neu gyda'r nos, ac wyneb yn wyneb.

Eich Tasgau:

* Cynllunio, paratoi a chyflwyno cyrsiau byr ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.

* Rhannu profiad diwydiannol; trosglwyddo eich sgiliau a'ch gwybodaeth i raglenni dysgu ac asesiadau

A chofiwch, os nad oes unrhyw brofiad gennych o fod yn diwtor, ond mae gennych brofiad diwydiannol, hoffem glywed gennych!

Gofynion y Rôl:

* Unigolyn brwdfrydig a chreadigol sy'n gweithio'n dda gydag eraill

* Gallu naturiol i gefnogi ac ysgogi

* Etheg waith effeithlon, effeithiol a rhagweithiol

* Wedi cael ei addysgu hyd at safon Lefel 4 o leiaf (e.e. NVQ/City & Guilds)

* Mwynhau datblygu perthnasau agos gyda myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth yn eu profiadau dysgu

* Dyfarniad Aseswyr Galwedigaethol, TAQA neu gyfwerth, neu'n fodlon astudio ar gyfer hwn

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a chofrestriad fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd sydd ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.