MANYLION
  • Lleoliad: Risca,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Medi, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Prosiect - Lluoswch

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Rheolwr Prosiect - Lluoswch
Disgrifiad swydd
*** Mae'r swydd wag hon ond ar gael i weithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynnwys staff asiantaeth sy'n gweithio yn y Cyngor ar hyn o bryd. ***

Mae gennym ni gyfle cyffrous i recriwtio Rheolwr Prosiect i ymuno â thîm Dysgu Cymunedol i Oedolion Caerffili i reoli cyflawni effeithiol a llwyddiannus y rhaglen Lluosi.

'Drwy'r rhaglen Lluosi, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi dros £100 miliwn i Gymru i helpu trawsnewid bywydau oedolion ledled Cymru trwy wella eu sgiliau rhifedd gweithredol trwy diwtora personol am ddim, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg.'

Bydd y fenter Lluosi yn darparu ymyraethau rhifedd dyfeisgar ac o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion pobl leol a'r amcanion cenedlaethol ar gyfer Lluosi.

Ar gyfer y rôl hon, rydyn ni'n gofyn eich bod chi'n dangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y cais.

Bydd y Rheolwr Prosiect yn gyfrifol am y canlynol: rheoli'r tîm i sicrhau bod y rhaglen Lluosi yn cael ei gweithredu'n effeithiol ledled y Fwrdeistref Sirol; adeiladu a chynnal cysylltiadau â phartneriaid strategol ym mhob sector i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu cysoni a'u hintegreiddio; rheoli a monitro cyllidebau, gan gynnwys tracio ac adrodd ar ganlyniadau i gyrraedd targedau'r rhaglen; cynrychioli'r Cyngor fel y Corff Cyflawni Arweiniol ar gyfer y Rhaglen Lluosi mewn cyfarfodydd a digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol; nodi a meithrin mentrau rhanbarthol i alluogi datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer cyflawni ac i ddiwallu anghenion lleol.

Bydd gan y Rheolwr Prosiect brofiad o gyfrannu tuag at reoli ansawdd er mwyn bodloni gofynion y sefydliad, y corff dyfarnu a chyllido; cymell ac arwain pobl tuag at amcanion sy'n newid yn gyflym; gweithredu datrysiadau creadigol i oresgyn rhwystrau; rheoli arian cyllidebol; darparu gwybodaeth barhaus am reoli ac adroddiadau ar gynnydd yn ôl targedau sy’n cael eu cytuno; rheoli timau o bobl a chyfathrebu pwrpas a chyfeiriad clir; cydweithio ag ystod eang o bartneriaid a chyflogwyr; datblygu prosiect; gwerthuso a mesur cynnydd.

Bydd gan y Rheolwr Prosiect ddealltwriaeth gadarn o nodau a gallu strategol.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt staff.

Bydd y contract yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025.

Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, cysylltwch â Caroline Millington ar 01495 233293 neu millic1@caerffili.gov.uk.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.