MANYLION.
  • Lleoliad: Tredegar,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Grade 5 £29,540 - £32,597 per annum, pro rata \/ term time
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu L3 - Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Tredegar - Safle Tredegar

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflog: Grade 5 £29,540 - £32,597 per annum, pro rata \/ term time

Mae angen ar yr ysgol DAU cynorthwy-ydd addysgu I ddechrau ar 1af o Fedi, 2026.

Agorodd Ysgol Gymraeg Bro Helyg ei drysau i staff, disgyblion a rhieni ar 3 Medi 2010. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar stad ddiwydiannol rhwng Nant-y-glo a Blaenau.

Agorodd Ysgol Gymraeg Tredegar ym mis Tachwedd 2025 fel ysgol ffrwythlyn newydd sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar Ffordd y Siartwyr, Tredegar.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion Meithrin - Fl.2 yng Ngorllewin sir Blaenau Gwent. Wedi ei lleoli ar Ffordd y Siartwyr, bydd yr ysgol Newydd sbon yn tyfu'n flynyddol nes cyrraedd ei llawn dwf o 210 o blant.

Mae'r ysgol yn un gyfeillgar a theuluol gyda staff ymroddedig sy'n creu ethos bositif ac ofalgar.

Dymuna'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr benodi ymarferydd brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â thȋm Ysgol Gymraeg Tredegar wrth iddi barhau i dyfu.

Yn ystod y broses recriwtio byddwn yn ymgymryd â sgrinio trwyadl cyn cyflogi. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddianus cwblhau cais DBS.

Mae angen i ymgeiswyr anfon ffurflen gais at y Pennaeth, Miss Janine Wardill trwy'r cyfeiriad e-bost: Ysgolbrohelyg@bgcbcschools.wales

Dyddiad cau: 01.06.26

Cyfweliadau: W/D 08.06.26