MANYLION
- Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
- Testun: Asesydd
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2021 12:00 y.p
This job application date has now expired.
SWYDD: Asesydd TMA
LLEOLIAD: Pob un o safleoedd CAVC
YN ADRODD I: Darlithydd Anawsterau Dysgu Arbenigol a Phennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant
CYFLOG: £26,814 - £28,640 y flwyddyn, pro rata
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
1. Cynorthwyo'r Uwch Dîm Rheoli gyda'r gwaith o wireddu gweledigaeth, cenhadaeth a chynlluniau'r Coleg yn llwyddiannus, wrth ddarparu Coleg newydd sy'n bodloni ei ddisgwyliadau a'i ddyheadau.
2. Gweithio fel rhan o dimau sy'n perfformio'n uchel, a chyfrannu atynt.
3. Cynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu'n rhagweithiol a darparu gwasanaethau i safonau rhyngwladol.
4. Cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith o weithredu a monitro gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd a Chynllun Gweithredol y Coleg.
5. Hyrwyddo newid, cyfathrebu, gwella'n barhaus a grymuso, gan sicrhau bod cydweithwyr wedi'u cymell, yn deyrngar ac yn gefnogol.
6. Bod yn rhan o'r gwaith o adolygu, gwella ac optimeiddio'n barhaus effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich prosesau adrannol.
ROLAU ALLWEDDOL
Rolau Generig
1. Cynrychioli'r Coleg gydag asiantaethau allanol fel sy'n ofynnol i gyflawni eich dyletswyddau neu'n ôl cyfarwyddyd eich Rheolwr Llinell.
2. Cyflawni targedau a dangosyddion perfformiad cytunedig ar draws pob maes cyfrifoldeb.
3. Cydymffurfio â pholisïau'r Coleg, yn enwedig y rheiny mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
4. Cydymffurfio ag Iechyd a Diogelwch a mesurau diogelwch yn unol â gofynion statudol a'r Coleg.
5. Bod yn fodel rôl gan gefnogi gwerthoedd a rheolaeth gorfforaethol y Coleg.
6. Datblygu eich hun yn weithredol drwy weithgareddau hyfforddiant a datblygiad staff ac adolygu eich perfformiad eich hun a pherfformiad y rhai hynny sy'n atebol i chi.
7. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n gyson â chyfrifoldebau a dyletswyddau'r swydd, yn ôl cyfarwyddyd eich Rheolwr Llinell.
Rolau Penodol
Fel Asesydd TMA byddwch yn gweithio â dysgwyr ar draws y Coleg sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anawsterau dysgu a/neu anableddau. Byddwch yn galluogi'r dysgwyr hyn i gael mynediad at eu haddysg a chyflawni a datblygu wrth astudio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.
Yn benodol, byddwch yn:
1. Cysylltu â dysgwyr, darlithwyr, tiwtoriaid, y tîm ADY a Llesiant, Anogwyr Dysgu a'r Tîm Arholiadau, rhieni/gofalwyr allanol a sefydliadau addysgol blaenorol i sicrhau y cesglir gwybodaeth am gymorth a threfniadau mynediad i arholiad (TMA) blaenorol a rhennir argymhellion cymorth.
2. Darparu cymorth i ddarlithwyr i'w galluogi i gyfeirio dysgwyr ar gyfer TMA a darparu'r dystiolaeth gefndirol angenrheidiol o'r 'ffordd arferol o weithio' i gefnogi'r cais.
3. Cynnal profion seicometrig priodol, un i un neu mewn grwpiau, mewn ffordd ddilys ac ysgrifennu adroddiadau Ffurflen 8 JCQ, neu gasglu tystiolaeth ac ysgrifennu Nodiadau Ffeil Manwl, fel sy'n briodol, i gefnogi'r cais ar gyfer trefniadau mynediad i arholiad.
4. Cysylltu â chyrff dyfarnu i wneud cais am TMA a sicrhau y dilynir prosesau ar gyfer gwneud cais am drefniadau fel sy'n ofynnol gan gyrff dyfarnu unigol.
5. Mynychu cyfarfodydd safoni a chydlynu fel sy'n ofynnol a sicrhau y bodlonir gofynion a dyddiadau arholiadau.
6. Storio'n ddiogel a chadw cofnodion cywir mewn perthynas â cheisiadau a chanlyniadau TMA a sicrhau y cofnodir gwybodaeth yn gywir, a phrydlon, ar systemau canolog.
7. Cysylltu â'r Arweinydd Technoleg Gynorthwyol i gefnogi myfyrwyr wrth ddefnyddio technolegau dysgu a chynorthwyol a meddalwedd arbenigol mewn arholiadau megis ysgrifbinnau sganio a Read&Write.
8. Cyfrannu at ddatblygu gweithdrefnau asesu ac atgyfeirio ac adnoddau a lledaenu arferion gorau o fewn y Tîm TMA.
9. Cefnogi hyfforddiant a datblygiad staff ar draws y Coleg i godi ymwybyddiaeth o drefniadau mynediad i arholiad.
10. Cyflawni dyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol, megis mynychu cyfarfodydd rheoli achosion ADY, cynnal cyfweliadau cychwynnol, sgrinio dysgwyr, hyfforddi a mentora dysgwyr ADY ar sail un i un a grŵp a chynnal cofnodion cywir.
11. Cyfrannu at, a chefnogi'r Cynllun Gwella Ansawdd Adrannol ac Adroddiad Hunanasesu a dangosyddion perfformiad allweddol.
12. Bod yn ymwybodol o, a gweithio o fewn, ac ymateb i newidiadau cenedlaethol mewn polisi, canllawiau, rheoliadau a deddfwriaeth yn ymwneud ag ADY (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, addasiadau rhesymol (Deddf Cydraddoldeb 2010) a gofynion cyrff dyfarnu).
13. Annog a cheisio safbwyntiau ac adborth dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.
Bydd pob Swydd Ddisgrifiad yn cael ei adolygu:
1. O fewn chwe mis o benodi.
2. Ar ôl hynny, yn flynyddol.
3. O ganlyniad i anghenion datblygu personol / staff cytunedig.
4. O ganlyniad i ofynion tîm / gweithredol neu newidiadau i strategaeth.