MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria - Deeside,
- Pwnc: Cymorth
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Awst, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagor ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Arbenigwyr Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy (prif safle) / sawl safle
Math o Gontract: Llawn Amser/ Tymor Sefydlog am 12 mis
Cyflog: £34,236 - £38,139
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Arbenigwr Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd i ymuno â’n tîm Ystadau a Chyfleusterau a fydd yn atebol i’r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd. Fel Arbenigwr Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd, byddwch yn gweithio tuag at wella cynaliadwyedd ac amgylchedd y coleg wrth sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth briodol y llywodraeth. Bydd disgwyl i chi nodi a gweithredu effeithlonrwydd ym mhob un o bum safle’r coleg er mwyn helpu i leihau’r defnydd o ynni, yn ogystal ag edrych ar ddefnyddio technolegau newydd i wella effeithlonrwydd cyffredinol a helpu i hyrwyddo’r coleg fel amgylchedd uchelgeisiol i’n dysgwyr ac fel meincnod ar gyfer sefydliadau eraill. Byddwch yn hyfedr mewn rheoli prosiectau i’ch helpu i gyflawni hyn. Byddwch yn ymwneud â datblygu strategaeth a map ffordd i helpu i arwain y coleg i gyflawni Carbon Sero Net erbyn 2030. Byddwch hefyd yn darparu cymorth a chyngor proffesiynol ar gynaliadwyedd i ddysgwyr, staff, rheolwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allanol y coleg yn ôl y gofyn. O dro i dro bydd gofyn i chi hefyd gefnogi’r tîm Iechyd a Dioglewch yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Gofynion Hanfodol
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

- Rhaid i chi feddu ar radd berthnasol neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol.
- Profiad o reoli prosiect.
- Profiad mewn rôl gynaliadwyedd mewn sefydliad canolig/mawr.
- Hanes blaenorol o ddatblygu a chyflwyno polisi a mentrau cynaliadwyedd.
- Gwybodaeth gyfredol a chadarn am gynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni ac arferion ac egwyddorion rheoli'r amgylchedd.
- Profiad o gyflwyno hyfforddiant a chyflwyniadau i gynulleidfaoedd mwy.
- Profiad o ddelio â materion technegol cymhleth a dod o hyd i atebion.
- Profiad o weithredu systemau iechyd a diogelwch, ymgymryd â phrosiectau.