MANYLION.
  • Lleoliad: Abertillery,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Leadership Range L7-L11 £61,198 - £67,531 per annum
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Gynradd St Illtyd’s)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflog: Leadership Range L7-L11 £61,198 - £67,531 per annum

Dyddiad Cychwyn: 1 Medi 2026

Mae Ysgol Gynradd Rhos y Fedwen yng nghymuned Llanhiledd, Abertyleri. Mae'n ysgol agored a chyfeillgar gyda staff ymroddedig, sy'n gweithio'n galed i greu ethos cadarnhaol a gofalgar.

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Dirprwy Bennaeth â chymhelliant uchel, sy'n arloesol ac yn ysbrydoli, ac sy'n ymarferydd rhagorol gydag ymroddiad i ddatblygu addysgu a dysgu o'r ansawdd uchaf.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Medru darparu syniadau clir, ysbrydoledig ar gyfer cynyddu safonau addysgol ym mhob adran o'r ysgol.
  • Meddu ar y weledigaeth ar gyfer datblygiad pellach i sicrhau perfformiad cyson uchel
  • Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a phersonol ardderchog
  • Meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i arwain a datblygu diwygio'r cwricwlwm
  • Medru hyrwyddo gwaith tîm effeithlon
  • Hyrwyddo gwerthoedd sy'n cynnal ysgol ddisgybledig a threfnus gydag ethos gofalgar
  • Medru adeiladu ar y cysylltiadau da iawn a sefydlwyd gyda'n teuluoedd, y gymuned yn ehangach, cyflogwyr lleol ac ysgolion cyfagos
  • Deall bod ein llwyddiant yn dibynnu ar barch at ein gilydd a chydweithredu o fewn holl gymuned yr ysgol.

Yn eu tro bydd y Llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol, gan felly greu ymarfer o ddysgu a datblygiad effeithlon ym mhob rhan o'r ysgol a'i chymuned.

Mae Ysgol Gynradd St Illtyd's yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr i rannu'r ymrwymiad hwn.

Nifer ar y gofrestr 173 (yn cynnwys Meithrin)

Cynhelir sgrinio cyn-cyflogaeth trwyadl yn ystod y broses recriwtio. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd lenwi cais am Ddatgeliad Cofnodion Troseddol estynedig yn cynnwys rhestr gwahardd rhag gweithio gyda phlant.

Mae'r swydd angen cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg dan gategori Athro/Athrawes Ysgol a bydd angen i'r cofrestru fod yn ei le cyn dechrau yn y swydd. Mae gwybodaeth ar sut i gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gael ar y wefan ddilynol http://www.ewc.wales/ neu dwy ffonio 02920 460099.

Dyddiad cau: Dydd Sul 12 Ebrill 2026, Canol Nos

Llunio rhestr fer: Dydd Iau 16 Ebrill 2026

Cyfweliad Cyngor Ysgol a Arsylwi Gwers yn ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer: Dydd Gwener 24 Ebrill 2026

Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Mawrth 28 Ebrill 2026