MANYLION
  • Lleoliad: Ty Penallta,
  • Testun: Seicoleg
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Awst, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Seicolegydd Addysg Cynorthwyol

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Seicolegydd Addysg Cynorthwyol
Disgrifiad swydd
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI

DYSGU, ADDYSG A CHYNHWYSIANT

GWASANAETH SEICOLEG ADDYSG

SWYDDI SEICOLEGYDD ADDYSG CYNORTHWYOL: 3 swydd, am gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2024 yn y lle cyntaf, yn amodol ar gadarnhau bod y cyllid yn parhau.

Soulbury 1-4 (Graddfa Seicolegwyr Addysg Cynorthwyol)

Cyflog: £30,694 - £34,448

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn dîm sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn yr Awdurdod Lleol. Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill i ddarparu model hyblyg a chreadigol o gyflenwi gwasanaethau sydd â ffocws ar les wrth ei wraidd. Rydyn ni'n cynnig model darparu gwasanaeth sy’n seiliedig ar ymgynghori, ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer gwaith achos manwl a gwaith systemig.

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Caerffili wedi ymrwymo i feithrin gallu mewn ysgolion, ac mae'r gwasanaeth yn cynnig amrywiaeth o becynnau hyfforddi a chymorth i ddiwallu anghenion lleol megis Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol, Thrive ac ymarfer sy'n seiliedig ar ymlyniad/trawma.

Rydyn ni am recriwtio Seicolegwyr Addysg cadarnhaol, blaengar i ategu a chryfhau ein tîm presennol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar gyd-baratoi a chyd-ddarparu ymyriadau lles i ysgolion a gwerthuso gwasanaethau.

Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar radd mewn Seicoleg a phrofiad perthnasol o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kyla Honey, Prif Seicolegydd Addysg, ar 07544 276540 neu Dermot McChrystal, Dirprwy Brif Seicolegydd Addysg, ar 07728 361277.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Awst 2023.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 31 Awst 2023 / 1 Medi 2023.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.