MANYLION.
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/awes Datblygu'r Gymraeg a Dwyieithrwydd

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 3568

Sefydliad:

Cyngor Sir Caerfyrddin

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Dros Dro/Secondiad - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Dyddiad gorffen y contract:

31 Awst 2028

Lleoliad:

Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Athrawon Ysgol

Cyflog:

£33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£24.72 - £30.04

Oriau Contract:

32 awr 30 muned

Dewch i ymuno â'n tîm

Cyngor Sir Caerfyrddin
Gwasanaeth Y Gymraeg mewn Addysg

Yn eisiau erbyn 1 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny

Athro/Athrawes Datblygu'r Gymraeg a Dwyieithrwydd (Secondiad)
Cyflog: M2 - U3
Secondiad Dwy Flynedd o 1 Medi 2026 tan 31 Awst 2028 neu Cytundeb Cyfnod Penodedig

Cyfle Cyffrous i Ymuno â'n Gwasanaeth Y Gymraeg mewn Addysg

Dyma gyfle unigryw i gael effaith wirioneddol drwy gefnogi gweithrediad un o brif flaenoriaethau'r Cyngor.
  • Ydych chi'n athro neu athrawes ragorol sy'n angerddol am godi safonau'r Gymraeg?
  • A allwch chi ysbrydoli dysgwyr o bob oed i symud yn hyderus ar hyd y continwwm iaith?
  • Ydych chi'n awyddus i chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu addysg Gymraeg a dwyieithog ar draws ein hawdurdod lleol?

Y Rôl:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am ymarferydd rhagorol, ysbrydoledig, creadigol ac ymroddedig i ymuno â'n Gwasanaeth y Gymraeg mewn Addysg ar secondiad.

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau caffael iaith effeithiol drwy gefnogi pontio effeithiol o'r cyfnod cynradd i'r uwchradd yn y sector cyfrwng Cymraeg, gan sicrhau darpariaeth drochi a/neu gloywi iaith o safon uchel ar gyfer grwpiau penodol o ddisgyblion o fewn ysgolion uwchradd.

Disgwylir i'r unigolyn weithio'n agos ag ysgolion cynradd i nodi disgyblion a allai elwa ar gymorth iaith ychwanegol, ac i barhau i ddarparu'r gefnogaeth hon wrth iddynt drosglwyddo i addysg uwchradd.

Bydd yr athro/athrawes yn addysgu mewn ysgolion uwchradd penodol ar draws Sir Gâr ynghyd â chydlynu darpariaeth drochi/gloywi iaith sy'n cael ei ddarparu'n fewnol gan staff mewn ysgolion uwchradd eraill.

Rydym yn chwilio am ymarferydd â phrofiad llwyddiannus o addysgu'r Gymraeg yn effeithiol yng Nghyfnod Allweddol 2 a/neu 3, ymarferydd creadigol, ysbrydoledig ac arloesol sy'n gallu ysbrydoli dysgwyr ac addasu addysgu i ddiwallu eu hanghenion a sicrhau cynnydd.

Bydd y deiliad hefyd yn:
  • Cydweithio'n agos ag arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu
  • Gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr mewn canolfannau trochi
  • Sicrhau darpariaeth drochi a gloywi uwchradd ardderchog ac ecwiti i bob dysgwr

Mae dealltwriaeth gadarn o fethodoleg caffael iaith, anghenion dysgu ychwanegol (ADY), niwrowahaniaeth a dulliau sy'n ymwybodol o drawma yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn disgwyl safonau addysgu uchel, ymrwymiad cryf i les dysgwyr, a'r gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm proffesiynol ac uchelgeisiol.

Beth mae ein dysgwyr yn ei ddymuno
  • Athro neu athrawes sy'n gwrando ac yn ein trin gyda pharch
  • Rhywun sy'n ein gwneud i deimlo'n ddiogel, yn hyderus ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd
  • Gwersi diddorol, creadigol ac ysbrydoledig sy'n ein helpu i wneud cynnydd
  • Athro sy'n ein hannog ac yn ein cefnogi pan fydd pethau'n anodd
  • Rhywun sy'n ein gwneud i deimlo'n rhan o dîm ac yn dathlu ein llwyddiannau

Beth allwn ni ei gynnig
  • Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr
  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol gyda thîm proffesiynol angerddol ac ymroddedig
  • Cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol, gan gynnwys hyfforddiant arbenigol ym maes trochi iaith a chaffael iaith
  • Profiad gwerthfawr ar lefel system awdurdod lleol
  • Diwylliant sy'n gwerthfawrogi lles staff, cydweithio a rhannu arfer dda

Ydych chi'n barod i ymuno â ni?

Os ydych yn barod am her, yn arloesol ac yn angerddol am gaffael yr iaith Gymraeg, rydym am glywed gennych.

Am sgwrs anffurfiol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â Chris Newcombe ( CJNewcombe@sirgar.gov.uk )

Disgrifiad Swydd:

Proffil Swydd - Athro-Athrawes Datblygu'r Gymraeg a Dwyieithrwydd.pdf - 212KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

9 Medi 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 15/07/2026, 12:00

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.