MANYLION
- Lleoliad: Ty Penallta,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Ymgynghorydd Gofal Plant
Disgrifiad swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghaerffili i gyflogi Ymgynghorydd Gofal Plant i ymuno gyda’n tîm o staff profiadol ac ymroddgar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli baich achosion o leoliadau gofal plant i ddarparu cyngor, cymorth a hyfforddiant i gwrdd â gofynion lleol a rheoleiddiol, gan gynnwys Dechrau’n Deg, Arolygiaeth Gofal Cymru, ESTYN.
Bydd gan y daliwr swydd y gallu i fonitro a datblygu cynlluniau gweithredu pwrpasol, cynlluniau gwelliannau gwasanaeth ac adroddiadau ansawdd gofal. Rydym yn edrych am rywun sydd â gwybodaeth dda am Ddeddf ALNET 2019 ac sydd yn gallu cefnogi profiadau positif a throsglwyddiadau i blant sydd ag egin anghenion neu anghenion ychwanegol.
Bydd y daliwr swydd yn rhywun sydd yn gyfathrebwr effeithiol ar sawl lefel yn Gymraeg ac yn Saesneg ac sydd yn gallu datblygu perthnasoedd gweithio llwyddiannus gyda darparwyr gofal plant, rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth arbenigol a medrusrwydd mewn datblygu iaith, yn enwedig datblygu’r iaith Gymraeg a’r ddarpariaeth o amgylchedd iaith gyfoethog.
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gael:
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Laura Chislett ar 07927590959 chisll@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

- Cymhwyster Lefel 6 (Gradd) perthnasol ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, er enghraifft, Gradd BEd yn y Blynyddoedd Cynnar.
- Statws Athro Cymwysedig neu Athro Ysgol Gynradd gymwysedig gydag arbenigedd yn y Blynyddoedd Cynnar
- Hyfforddiant diweddar / datblygiad yn y Cwricwlwm Blynyddoedd Cynnar gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen.