MANYLION
  • Lleoliad: Oakdale,
  • Pwnc: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Addysgu Level 3

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwy-ydd Addysgu Level 3
Disgrifiad swydd
Name of school: Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Job Title: Teaching Assistant / Cynorthwy-ydd Addysgu (Level 3/Gradd 5) (Level 3/Grade 5)

Start date: (Pending pre-employment and safeguarding checks) -Medi 2023 / September 2023

Contract: Cyfnod penodol / Fixed term

Contract End Date: 31 Awst 2024 / 31 August 2024

Mae’r ysgol lwyddiannus, hapus hon yn chwilio am 2 gynorthwyydd addysgu Lefel 3 (Gradd 5) brwdfrydig, ymroddgar a hyblyg, i weithio fel rhan o’n tîm prif ffrwd. Mi fydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar NVQ lefel 3 Addysg a Gofal Plant neu gymhwyster cyfatebol.

Mae’r Corff Llywodraethol yn awyddus i apwyntio 2 gynorthwyydd dysgu sydd yn arddangos safonau uchel o gefnogi’r dysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru. Fe fydd profiad o weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol o fantais. Fe fydd yr ysgol yn cefnogi’r ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu o fewn ei rôl gan roi cyfleodd dysgu proffesiynol o safon uchel.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus :
  • weithio yn effeithiol fel aelod o dîm hyblyg a phrysur a meddu ar agwedd bositif at ddatblygiad yr ysgol;
  • weithredu cynlluniau gwaith cytunedig dan arweiniad staff dysgu gydag unigolion, grwpiau a’r dosbarth cyfan- yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan;
  • gynorthwyo’r athrawes/ athro dosbarth wrth reoli a pharatoi adnoddau;
  • bod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan yn absenoldeb byrdymor yr athro/athrawes;
  • annog a galluogi ein disgyblion i ddysgu trwy fwynhad, anelu at safonau uchel ac ymddwyn yn dda;
  • defnyddio strategaeth rheoli ymddygiad cadarnhaol penodol;
  • gefnogi’r athrawes wrth gwblhau asesiadau;
  • roi sail ieithyddol gadarn i’n disgyblion yn y Gymraeg a’r Saesneg;
  • i feddu ar wybodaeth gadarn o gefnogi dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Bod yn barod i ymrwymo i gyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn ehangu dealltwriaeth dysgu ac addysgu effeithiol.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kathryn Matthew ar 01495 226062.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

e'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol ar 01495 226062. Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i Kathryn Matthews, Pennaeth, ar Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Beech Grove, Oakdale, Caerphilly NP12 3UP neu ysgolgymraegcwmderwen@sch.caerphilly.gov.uk

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.