MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun:
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £22,658 - £24,665
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Gweinyddwr (Swyddog Cymorth Cynllun Datblygu Unigol)

Gweinyddwr (Swyddog Cymorth Cynllun Datblygu Unigol)

Coleg Gwyr Abertawe
Swyddog Cymorth Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a Chymorth Gweinyddol

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Cydlynu’r gwaith o reoli Adolygiadau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn mewn lleoliadau Sgiliau Byw’n Annibynnol a lleoliadau prif ffrwd. Hysbysu, creu a chynnal Cynlluniau Datblygu Unigol dysgwyr yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET). Gweithio gyda rhanddeiliaid allanol allweddol, dysgwyr a staff yn y Coleg i sicrhau bod pob CDU yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlenni a osodwyd a sicrhau bod partïon perthnasol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. Sicrhau bod gweledigaeth ac ymrwymiad y Coleg i brofiad y dysgwr yn cael eu cyflwyno’n effeithiol drwy gyrraedd targedau er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i ddysgwyr a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn.

Amser Llawn (37 Awr)
Dros Dro tan Awst 31 2025
Cyflog - £22,658 - £24,665
Dros Campws Coleg, Abertawe
Dyddiad Cyfweliad - Gorffenaf 14 2023
Cyfrifoldebau Allweddol:

Monitro, cynnal a rheoli cofnodion pob dysgwr â CDU a sicrhau y cyrhaeddir targedau ar gyfer dyddiadau adolygu.
Bod yn gyfrifol am drefnu a/neu gydlynu presenoldeb mewn cyfarfodydd Adolygiadau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn er mwyn llywio’r gwaith o greu, cynnal, neu gau CDU person ifanc yn unol â Chod ADY 2021.
Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd Adolygiadau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a diweddaru pob CDU yn flynyddol.
Creu a/neu gynnal CDU gan sicrhau bod llais y dysgwr wrth wraidd pob proses o wneud penderfyniadau.
Amdanoch chi:

Pedair gradd C neu uwch ar lefel TGAU neu’r cyfwerth, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
Hyfforddiant helaeth ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu ymarfer cynhwysol mewn addysg
Gwybodaeth fanwl o ALNET a’r Ddeddf Cydraddoldeb a’r goblygiadau o ran rhoi cymorth i bobl ifanc yn y coleg
Dealltwriaeth dda o’r anghenion cymhleth a’r rhwystrau i ddysgu a wynebir gan ddysgwyr ag ADY
Buddion:

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).