MANYLION
- Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
- Testun: Athro
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: 01 September, 2023
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Dwyieithog
- Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2023 12:00 y.p
This job application date has now expired.
Athro/Athrawes Dros Dro Dosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anogaeth) Cyfnod mamolaeth
Rhondda Cynon Taf
Athro/Athrawes Dros Dro Dosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen (Anogaeth) Cyfnod mamolaeth wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd y Cefn.
Graddfa Gyflog: Athrawon ynghyd â Lwfans AAA
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf am benodi athro/athrawes â chymwysterau a phrofiad priodol dros gyfnod mamolaeth ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu yn Ysgol Gynradd y Cefn i ddechrau ym Medi/Hydref 2023. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn Dosbarth Meithrin ar gyfer hyd at 8 o ddisgyblion rhwng 5 a 7 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Yn gyfrifol am y dosbarth mae un athro a dau gynorthwyydd cymorth dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol / Anogaeth.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffonio 01443 744356.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar ddydd Gwener, 16 Mehefin 2023.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.