MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria Llysfasi,
  • Testun: Cymorth
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymorth Gofal ac Annibyniaeth CC/2398

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Gweithiwr Cymorth Gofal ac Annibyniaeth

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Rhan amser (0.775FTE, 35awr yr wythnos dros 36 wythnos),Parhaol

Cyflog: £21,069 - £21,490 Pro Rata

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth Gofal ac Annibyniaeth i ymuno â’n Tîm Cymorth Dysgu. Bydd y swydd benodol hon wedi’i lleoli ar ein safle yn Galnnau Dyfrdwy.

Trosolwg o’r Swydd

Gan adrodd yn ôl i’r Cydlynydd Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol, bydd y Gweithiwr Cymorth Gofal ac Annibyniaeth yn darparu gofal personol a chymorth un i un i fyfyrwyr gydag ystod eang o anghenion ac anableddau. Gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn y ffordd leiaf ymwthiol, byddwch yn ymgymryd â thasgau y mae manylion amdanynt yn y cynllun gofal a chymorth i fyfyrwyr. Yn ogystal â hyn byddwch yn gallu cyfathrebu’n dda ac yn meithrin perthnasau gweithio effeithiol. Byddwch yn cynorthwyo myfyrywyr gyda’u meddyginiaeth ar y lefel o gymorth y cytunwyd arni a chadw cofnodion manwl cywir mewn perthynas â’r gofal a’r feddyginiaeth a roddir can ddarparu adborth rheolaidd i’r Cydlynydd Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Byddwch yn cynorthwyo myfyrwyr i wisgo a dadwisgo, gyda mynd i’r toiled, gallu dal dŵr a hylendid cyffredinol. Byddwch yn helpu gyda pharatoi bwyd a diod; bod yn ymwybodol o ddewisiadau’r myfyrwyr, hoff bethau/cas bethau, anghenion maethol a gofynion diwylliannol.

Bydd gofyn i chi hefyd gynorthwyor’r myfyriwr gyda’u dysgu trwy weithredu fel darllenydd, ysgrifennydd a thrwy gymryd nodiadau pan fo angen. Byddai’n fanteisiol iawn petai gennych gymhwyster mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, Codi a Chario a Rhoi Meddyginiaeth ond nid yw’n hanfodol.

Gofynion Hanfodol
  • NVQ Lefel 2 mewn Gofal
  • Profiad o Godi a Chario a darparu safonau uchel o ofal
  • Dealltwriaeth dda o egwyddorion gofal da
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiogelu pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed.
  • Ymdrechu i fodloni’r safonau uchaf mewn gwasanaethau i gwsmeriaid
  • Byddwch yn gallu cyfathrebu mewn modd effeithiol, yn dosturiol, amyneddgar ac yn empathig
  • Hyblyg a chyfeillgar gydag agwedd gadarnhaol o dan bwysau

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai