MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Athro
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/athrawes Disgyblion ag Awtistiaeth  + AAA -Ysgol Bryn Castell

Athro/athrawes Disgyblion ag Awtistiaeth + AAA -Ysgol Bryn Castell

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Athro/athrawes Disgyblion ag Awtistiaeth + AAA -Ysgol Bryn Castell
Disgrifiad swydd
2 x Llawn amser - Parhaol

Graddfa Gyflog Athrawon ynghyd ag AAA

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bryn Castell yn dymuno penodi athro/athrawes arbenigol ar gyfer dosbarth o ddisgyblion ag Awtistiaeth ac ymddygiad heriol yn Ysgol Bryn Castell.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, ochr yn ochr â phrofiad/cymwysterau penodol i Awtistiaeth ac ymrwymiad cadarn i weithio mewn ffordd gydweithredol i gyflawni'r gorau oll i'n dysgwyr yn Ysgol Bryn Castell.

Bydd yn ofynnol i'r athro/athrawes weithio mewn cysylltiad agos ag athrawon dosbarth eraill, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol cynorthwyol i alluogi disgyblion i wneud cynnydd ar draws y cwricwlwm.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:

Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad i chi at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan gynnwys gostyngiadau gan brif fanwerthwyr.

Hamdden â Chymhorthdal: Mae pob cyflogai'n gymwys i brynu Bridgecard ar gyfraddau gostyngol sy'n cynnig mynediad am ddisgownt i ganolfannau hamdden y cyngor yn y fwrdeistref.

Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.

Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at Care First Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant meddyliol a chorfforol.

Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.

Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol cael gwiriad cofnodion troseddol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Dyddiad Cau:                          14 Mehefin 2023                                

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer:   19 Mehefin 2023        

Dyddiad y Cyfweliad:             26 Mehefin 2023

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion sydd wedi'u cynllunio i ddenu, datblygu, a gwobrwyo ein gweithwyr – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person

I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’