MANYLION
  • Lleoliad: Cross College,
  • Testun: Astudiaethau Cyffredinol
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £10.00 - £12.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Arholiadau

Goruchwyliwr Arholiadau

Coleg Y Cymoedd
Goruchwyliwr Arholiadau
Swydd ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad

 

Fel Goruchwyliwr Arholiadau, byddwch yn sicrhau bod arholiadau allanol yn cael eu cynnal yn gywir yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r JCQ a gyhoeddir gan y Rheolwr Arholiadau ac i gefnogi'r Swyddfa Arholiadau mewn materion sy'n ymwneud â chwblhau papurau arholiad.

Sylwch, rôl achlysurol yw hon yn unol ag arholiadau a drefnwyd. Bydd y Rheolwr Arholiadau yn cysylltu â chi pan fydd angen eich gwasanaethau.

 

Gwybodaeth Bellach:

 

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

 

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

 

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

 

Canllawiau Cais:

 

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

 

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

 

Cyswllt:

 

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â   careers@cymoedd.ac.uk