Coleg Y Cymoedd

Coleg Y Cymoedd
Further Education Institution
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Y Cymoedd
  • Aberdare
  • Rhondda Cynon Taf
  • CF44 8EN
  • Coleg Y Cymoedd
  • Nantgarw
  • Caerdydd
  • CF15 7QY
  • Coleg Y Cymoedd
  • Rhondda
  • Rhondda Cynon Taf
  • CF40 2TQ
  • Coleg Y Cymoedd
  • Ystrad Mynach
  • Caerffili
  • CF82 7XR
Amdanom Ni
Ffurfiwyd Coleg y Cymoedd yn 2013, yn dilyn uno Coleg Ystrad Mynach a Choleg Morgannwg.

Mae dros 10,000 o ddysgwyr yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd bob blwyddyn gyda safleoedd yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach.

Mae'r Coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau llawn amser a rhan amser o Lefel Mynediad i Radd mewn dros 15 o feysydd cwricwlwm.

Gan weithio mewn partneriaeth â mwy na 800 o gyflogwyr, mae tîm Gwasanaethau Busnes y Coleg yn cynnig ystod eang o brentisiaethau a phecynnau hyfforddiant masnachol wedi'u teilwra.

Mae'r Coleg wedi buddsoddi'n sylweddol yn ei gyfleusterau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ymhlith y prosiectau unigryw mae adeilad Campws Nantgarw (campws £40 miliwn sydd wedi ennill gwobrau), Campws Aberdâr (campws £22 miliwn a agorwyd yn 2017) a chyfleusterau Gwaith Rheilffordd a Cherbydau Modur o'r radd flaenaf.