MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn  Rheoli Prosiect                CC/2284

Darlithydd mewn Rheoli Prosiect CC/2284

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd:Darlithydd mean Rheoli Prosiect

Lleoliad: Llaneurgain

Y Math o Gontract:Parhaol, Rhan-amser (efallai y gellir ystyried rhannu swydd)

Cyflog: £28,751 i £44,442 (Pro rata) Mae’r pwyntiau ystod cyflog uchaf UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i’r Raddfa Dâl Uwch

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Darlithydd mewn Rheoli Prosiect ar safle ein Hysgol Fusnes drawiadol yn Llaneurgain. Mae hwn yn gyfle cyffrous i arbenigwr Rheoli Prosiect profiadol archwilio gyrfa newydd mewn Hyfforddiant Masnachol.

Bydd y swydd hon yn ymdrin â chyflwyno PRINCE2 (6ed Argraffiad 2017), Rheoli Prosiect a hyfforddiant Agile. Bydd y swydd hefyd yn rhoi mewnbwn i fodiwlau perthnasol y Radd Rheoli Busnes Cymhwysol, a achredir drwy Brifysgol Abertawe a’i haddysgu yn Ysgol Fusnes Cambria, Llaneurgain.

Mae angen ystod eang o brofiad yn y maes pwnc hwn a chymhwyster PRINCE2 (hyfforddwr achrededig peoplecert). Os oes gennych y profiad a'r cymwysterau perthnasol yn y diwydiant, ond nid y cymwysterau addysgu / hyfforddi, byddai'r Coleg yn ystyried cefnogi ac ariannu'r cymhwyster hwn i chi.

Nid yw gwyliau'n sefydlog ar y calendr academaidd gan fod hyfforddiant ar alw gan ein Cleientiaid Masnachol.

Gofynion Hanfodol
  • Cymwys i Lefel 3 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
  • Cymhwyster Addysgu (e.e. Tyst Add, TARCE, C&G 7407, mae posibilrwydd y bydd angen cyllid i gwblhau cymhwyster addysgu / hyfforddi yn y Coleg)
  • Gallu datblygu a defnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu
  • Adnabod a gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u cryfderau a'u hanghenion datblygu
  • Y gallu i asesu canlyniadau dysgu a chyflawniadau dysgwyr
  • Gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
  • Dangos gwerthfawrogiad o werthoedd a moeseg AB
  • Dangos dealltwriaeth o'r datblygiadau presennol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
  • Gallu dadansoddi a defnyddio gwybodaeth allweddol i lywio addysgu a dysgu

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.

Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar y safle

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai