MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Hydref, 2023 12:00 y.b
Mewngofnodwch i ymgeisio
Cymhorthydd Dysgu                CC/2469

Cymhorthydd Dysgu CC/2469

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Cymhorthydd Dysgu

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Rhan-Amser (31.25 awr yr wythnos, dros36 wythnos) (0.6919FTE)

Cyflog: £21,069 - £21,490 (cyflog llawn amser, pro rata yn dibynnu ar y patrwm gwaith)

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag i Gymhorthydd Dysgu ymuno â'n tîm yn Glannau Dyfrdwy i gefnogi ein dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad blaenorol o gefnogi dysgwyr mewn lleoliad addysgol. Rydym yn awyddus i recriwtio pobl sy'n credu'n angerddol y bydd grymuso a galluogi pobl ifanc ag ystod o alluoedd mewn lleoliad addysg bellach yn eu helpu i gyflawni eu dyheadau bywyd a gwaith.

Gofynion Hanfodol
  • Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i addasu eich dull cyfathrebu pan fo angen i ddiwallu anghenion pobl ifanc ac oedolion.
  • Bydd gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf Lefel 2 neu uwch(TGAU C neu uwch, tystiolaeth yn y cyfweliad)
  • Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu dangos empathi a dealltwriaeth o ystod o anawsterau/anableddau dysgu yn ogystal â gwydnwch, hyblygrwydd, amynedd a synnwyr digrifwch.
  • Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad blaenorol o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth neu brofiad personol perthnasol sylweddol.
  • Bydd disgwyl i chi ddangos angerdd dros rymuso a galluogi pobl ifanc
  • Byddwch yn dangos y gallu i feithrin perthnasoedd gwaith da gyda dysgwyr a staff a bod â'r gallu i reoli grwpiau o ddysgwyr ac agwedd gadarnhaol tuag at ymddygiadau heriol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai