MANYLION
- Lleoliad: Bridgend,
- Testun: Addysg Bellach
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Arweinydd Profiad a Lles Myfyrwyr
Swydd-ddisgrifiad Arweinydd Profiad a Lles Myfyrwyr
Graddfa gyflog 3/4: £21,434 - £25,454 y flwyddyn (pro rata)
Llawn amser, yn ystod y tymor yn unig (40 wythnos) a pharhaol
Cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar 40 wythnos iawn: £18,965 - £22,522
Pwrpas y Swydd: Hybu a hyrwyddo lles myfyrwyr trwy weithgareddau a digwyddiadau arloesol a diddorol. Sicrhau bod y coleg yn gynhwysol a bod myfyrwyr yn cael profiad sy'n eu galluogi i fod y cyfan y gallant fod.
Meini prawf hanfodol
Pecyn Gwybodaeth Swydd
Pam gweithio yng Ngholeg Penybont?
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus.
Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion, a chofrestriad fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld â phawb sydd ag anabledd os yw eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder, mae’n bosibl y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.

- Record brofedig o weithio gyda phobl ifanc mewn grwpiau.
- Gwybodaeth a phrofiad o gyflwyno gwybodaeth.
- Gwybodaeth am rwydweithio ag unigolion ac asiantaethau.
- Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar oedolion ifanc.
- Gwybodaeth am y rhwystrau wrth gynnig gweithgareddau ymgysylltu myfyrwyr a strategaethau i'w goresgyn.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth diogelu ac yn meddu ar gymhwyster Diogelu Lefel 1 neu 2 neu’n gweithio tuag ato.
Pecyn Gwybodaeth Swydd
Pam gweithio yng Ngholeg Penybont?
- Cynlluniau sy’n gyfeillgar i deuluoedd
- Rhaglen gymorth i gyflogeion ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth llesiant
- Cyfleusterau rhagorol ar y safleoedd, gan gynnwys siopau coffi
- Cyfleoedd dysgu a datblygu
- 22ain safle ar y rhestr o’r ‘25 Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU’, 8fed yn y categori ‘Cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru’ a 3ydd yn y DU yn y categori ‘Addysg a Hyfforddiant’ (2022)