MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 June, 2023
  • Dyddiad Gorffen: 01 June, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £22,581 - £44,442
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Darlithydd Saesneg Safon Uwch

Darlithydd Saesneg Safon Uwch

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am gynnig addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe, dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr mawr yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff ac rydym yn gofalu am eu lles er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a hefyd gartref

Y Rôl:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol, dawnus a brwdfrydig ymuno â thîm Saesneg Safon Uwch gwych Coleg Gwyr Abertawe Mae’r rôl am gyfnod penodol o ddwy flynedd, yn dilyn secondiad ein Harweinydd Cwricwlwm Saesneg presennol.

0.7 (Ffracsiynol) - 26 awr yr wythnos
Temporary for two years
£15,806 - £31,109 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a/neu brofiad)
Campws Gorseinon
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ymgeisio am rôl yr Arweinydd Cwricwlwm ar ôl cael ei benodi.

Cyfrifoldebau Allweddol

Gweithio gyda’r tîm i gyflwyno Saesneg Iaith, Saesneg Iaith a Llenyddiaeth a Llenyddiaeth Saesneg ar lefel Safon Uwch, gan sicrhau ardderchowgrwydd mewn addysgu a dysgu ar gyfer y tri chwrs amser llawn. Cyflwyno’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch i ddysgwyr Safon Uwch.
Monitro ac olrhain cynnydd dysgwyr, creu amgylchedd positif sy’n annog dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn o ran datblygiad academaidd, cymdeithasol a phersonol.
Bydd ymgeiswyr yn ymrwymedig i welliant parhaus a byddant yn cyfrannu’n effeithiol at ddatblygiad cwricwlwm a gweithgarwch allgyrsiol, gan gynorthwyo i gynllunio a marchnata cyrsiau.
Cadw i fyny â datblygiadau’r bwrdd arholi mewn perthynas â’ch maes pwnc.

Amdanoch chi:

Bydd gennych radd addas mewn Saesneg a chymhwyster addysgu cydnabyddedig (neu barodrwydd i ennill un).
Byddwch yn medru darparu ac asesu pob cwricwlwm a nodir.
Cyfathrebwr hyderus iawn ac ymrwymiad i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr Safon Uwch.
Sgiliau trefnu a datrys problemau gwych.
Y gallu i weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion staff addysgu a dysgwyr.

Buddion:

46 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
2 ddiwrnod lles i staff

Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £22,581 - £44,442 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Buddion:

Hawl i gael gwyliau'r contract cenedlaethol ar sail pro-rata, 5 diwrnod cau pro-rata ac 8 gwyl banc pro-rata, Cynllun Pensiwn Athrawon, amrywiaeth o fanteision i gyflogeion gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.