MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Testun: Athro
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

ATHRO DROS DRO, CYNRADD GOETRE

ATHRO DROS DRO, CYNRADD GOETRE

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
CYNGORBWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
YSGOL GYNRADDGOETRE
Pennaeth: Mr. D. Beech

Yn eisiau erbyn mis Medi 2023

Athro/Athrawes Cynradd PS2/3
Llawn amser 100%
Graddfa Gyflog Athrawon
Swydd Dros dro (1 flwyddyn i gychwyn)

Dyddiad cau: 31.05.23

Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon brwdfrydig, profiadol, sy'n teimlo y gallant helpu ein hysgol i adeiladu ar ei chryfderau a gweithio tuag at ragoriaeth o ran darpariaeth, cyflawniad a chyrhaeddiad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

• bod yn ymarferydd dosbarth rhagorol a meddu ar ddealltwriaeth glir o addysgu a dysgu effeithiol i ysbrydoli, meithrin ac arwain disgyblion o bob gallu;
• â disgwyliadau uchel iawn o ran cyflawniad ac ymddygiad ac yn meddu ar egni, brwdfrydedd, egni a phenderfyniad i godi safonau;
• meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio'r cwricwlwm ar gyfer Cymru a bod yn rhagweithiol yn ei ddysgu proffesiynol ei hun;
• bod yn angerddol am addysg gyda'r ymrwymiad a'r egni i alluogi pob dysgwr i lwyddo yn eu dysgu, gan feithrin perthnasoedd rhagorol a deall anghenion disgyblion yn dda iawn;
• gallu darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel trwy ddull dychmygus o ddysgu'n seiliedig ar sgiliau, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r TGCh ddiweddaraf yn effeithiol i ymgysylltu ac ysgogi;
• yn meddu ar y gallu i ymgorffori strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn llawn, asesu'n effeithiol, gosod targedau a defnyddio data yn effeithiol;
• meddu ar wybodaeth fanwl am y cwricwlwm cynradd statudol a'r fframwaith medrau;
• ag agwedd gadarnhaol a brwdfrydig at bob agwedd o fywyd yr ysgol;
• meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol gyda staff, rhieni a disgyblion;
• meddu ar y gallu i ddefnyddio llwyfannau digidol yn effeithiol i gyfoethogi dysgu ein plant a bod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo Cymraeg 2il Iaith a lles ein disgyblion;
• gallu arwain a datblygu maes cwricwlaidd yn effeithiol ar draws yr ysgol;
• bod yn weithgar ac yn gallu gweithio'n effeithiol gyda'r Pennaeth, y tîm arwain, cydweithwyr, llywodraethwyr, rhieni, a'r gymuned ehangach; a
• cefnogi ein hymgyrch i ddatblygu cyfranogiad disgyblion sy'n seiliedig ar werthoedd sy'n parchu hawliau.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon brwdfrydig, bywiog a chreadigol sy'n frwd dros addysgu a dysgu.

Dylai ymgeiswyr nodi eu cryfderau cwricwlaidd ac unrhyw sgiliau allgyrsiol y gallant eu cynnig i'r ysgol.

Bydd ymgeiswyr yn cyrraedd y rhestr fer ar 05.06.23. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu harsylwi yn addysgu (yn eu hysgol bresennol neu yn Ysgol Gynradd Goetre) a chynhelir cyfweliadau ar 14.06.23

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Mr Damien Beech ar 01685 351814.

Gellir cael ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na 31.05.23 2023 i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad |Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg. Cysylltwch ar yr e-bost uchod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.