MANYLION
  • Lleoliad: Bangor,
  • Testun: Nyrs Ysgol
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Nyrs Iechyd Meddwl, Tymor yn Unig, Cytundeb Penodol hyd at Mawrth 2025

Grwp Llandrillo Menai
Datblygwyd y swydd newydd hon am gyfnod penodol fel rhan o'n hymrwymiad i Strategaeth Lles Staff a Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai 2021-2024. Gan weithio gyda'r Rheolwr ADY, Rheolwyr y Gwasanaethau i Ddysgwyr, Rheolwyr y Meysydd Rhaglen, y tiwtoriaid, BIPBC a phartneriaid allanol bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith y dysgwyr:
  • Hyfforddi a chefnogi staff: codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a'r prosesau sydd ar waith i gefnogi dysgwyr, a chynorthwyo staff sy'n cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion iechyd meddwl.
  • Adnabod: datblygu model cynaliadwy ar gyfer adnabod dysgwyr a all fod angen cefnogaeth ychwanegol gyda'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol.
  • Pontio: cefnogi dysgwyr ag anghenion iechyd meddyliol ac emosiynol i drosglwyddo i'r coleg.
  • Asesu: ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, cynnal asesiadau o iechyd meddwl dysgwyr.
  • Cynlluniau gofal: ar y cyd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, cynhyrchu cynlluniau gofal ar gyfer dysgwyr sydd angen cymorth gyda materion iechyd meddwl.
  • Atgyfeirio dysgwyr at asiantaethau cefnogi allanol a chomisiynu asiantaethau cefnogi allanol.
  • Monitro ac adolygu'r gefnogaeth a roddir i ddysgwyr ynghyd â'u cynlluniau gofal.
  • Ymyriadau: llunio a/neu ddarparu ymyriadau a hyfforddiant i gefnogi dysgwyr ag anghenion iechyd meddwl ac emosiynol.


  • Manylion Swydd
    Cyfeirnod y Swydd
    AS/227/23

    Cyflog
    £32,221 - £40,181 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

    Lleoliad Gwaith
    • Bangor
    • Llandrillo-yn-Rhos

    Hawl gwyliau
    Swydd Tymor yn Unig - Hawl gwyliau wedi ei dalu yn y cyflog a nodir

    Patrwm gweithio
    37 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn

    Hawliau Pensiwn
    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

    Math o gytundeb
    Llawn Amser Cyfnod Penodol

    Dyddiad cau
    30 Mai 2023
    12:00 YH(Ganol dydd)