MANYLION
  • Lleoliad: Ty Penallta,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cyswllt Teulu

Swyddog Cyswllt Teulu

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Swyddog Cyswllt Teulu
Disgrifiad swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer x2 Swyddog Cyswllt Teulu yn y Tîm Ysgolion Bro, am gyfnod penodol.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynorthwyo i gyflwyno'r fenter Ysgolion Bro yn Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd hyn yn golygu gweithio fel rhan o dîm o weithwyr proffesiynol i helpu i ddatblygu fframwaith i gynorthwyo ysgolion i ymgysylltu â theuluoedd, ymgysylltu â'r gymuned a gweithio’n amlasiantaethol, trwy ddull clwstwr.

Bydd angen i ymgeiswyr fod â phrofiad o reoli llwyth gwaith prysur a gweithio i derfynau amser.

Byddai'r gallu i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol yn fuddiol.

Bydd gofyn i chi fod â thrwydded yrru llawn Categori B (Ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld ag ysgolion a theuluoedd a mynychu cyfarfodydd.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jamie Elliott ar 07720144944.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.