MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF24 5JW
  • Testun: Swyddog Cyfathrebu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £53,400.00 - £63,900.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2023 10:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Pennaeth Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Estyn
Rydym yn chwilio am Pennaeth Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, i ymestyn proffil ac enw da Estyn trwy wneud ein gwaith yn fwy hygyrch. Helpwch ni i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yng Nghymru’n cael ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant maent yn ei haeddu.

Fel pennaeth y tîm, byddwch yn arwain ac yn rheoli pob agwedd ar gyfathrebu, digwyddiadau, ac ymgysylltu â’n rhanddeiliaid. Byddwch chi’n gyfrifol am yr holl weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu allanol a mewnol, ac am gyflwyno ein rhaglen eang ac amrywiol o ddigwyddiadau.

Byddwch yn:

• Darparu arweinyddiaeth gydweithredol gref i ddatblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu arloesol sy’n bodloni amcanion corfforaethol Estyn, gan gynnwys strategaeth gyfathrebu fewnol ac allanol a chynllun blynyddol ymgysylltu â rhanddeiliaid.
• Arwain ar gyflwyno cyfathrebu sy’n cefnogi datblygu fframwaith arolygu 2024 Estyn.
• Arwain ar gyflwyno ein rhaglen eang ac amrywiol o ddigwyddiadau sy’n amrywio o ddigwyddiadau darlledu byw i hyfforddiant ar gyfer ein gweithlu arolygu allanol.
• Rheoli a chefnogi’r Rheolwr / Rheolwyr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a goruchwylio’r tîm Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid cyfan.
• Adolygu strategaethau cyfathrebu i sicrhau integreiddio ar draws pob sianel a nodi unrhyw fylchau.
• Gosod tôn a brandio corfforaethol ar gyfer yr holl ohebiaeth a digwyddiadau.
• Sicrhau bod y tîm Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn meddu ar adnoddau a medrau priodol i gyflwyno cynlluniau a digwyddiadau cyfathrebu cytunedig yn effeithiol.
• Deall y tirlun gwleidyddol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt a’i berthynas ag amcanion strategol Estyn; bwydo’r wybodaeth hon i gynlluniau’r cyfryngau.
• Arwain ar gynllunio, cyflwyno a gwerthuso cyfathrebu ac ymgyrchu i sicrhau bod gwaith Estyn yn cael yr effaith fwyaf ar draws yr holl randdeiliaid.
• Datblygu cysylltiadau cadarnhaol â chyfryngau allweddol.
• Gyrru cynlluniau gweithgarwch cyfathrebu blynyddol a mapio rhanddeiliaid.
• Cynorthwyo uwch gydweithwyr i greu cynnwys ar gyfer areithiau, cyflwyniadau ac ymddangosiadau cyhoeddus eraill.

Byddwch:

• yn mwynhau bod yn greadigol
• yn gallu cymell eich hun ac yn drefnus iawn
• yn hyblyg, yn wydn ac yn gallu addasu yn wyneb galwadau gwahanol, yn enwedig mewn sefyllfaoedd brys
• yn gallu blaenoriaethu a rheoli blaenoriaethau sy’n newid i chi’ch hun ac i’r tîm
• yn benderfynwr hyderus ac effeithiol sy’n gallu pennu cyfeiriad
• yn meddu ar fedrau gwerthuso cryf
• bod â’r gallu i ysgogi a heriau pobl eraill i wella ansawdd
• yn mwynhau her baich gwaith amrywiol
• yn gyfathrebwr hyderus, yn gallu gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl
• yn meddu ar safonau uchel ac yn anelu at ragoriaeth

JOB REQUIREMENTS
Mae’n hanfodol eich bod:

• yn meddu ar brofiad o ddatblygu strategaethau cyfathrebu a chysoni nodau tîm a nodau sefydliadol
• yn meddu ar brofiad o reoli timau, gan gynnwys dealltwriaeth glir o egwyddorion rheoli tîm, yn cynnwys rheoli newid
• yn dangos gwybodaeth gadarn am arferion gorau o ran cyfathrebu mewnol a’ch bod yn defnyddio’r arbenigedd hwn i roi argymhellion i arweinwyr sefydliadol/busnes ar gyfleu agenda’r busnes/yr agenda newid
• yn meddu ar brofiad o arwain a datblygu strategaethau cyfathrebu integredig
• yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig ac yn gallu addasu’ch arddull ysgrifennu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a sianeli, gyda sgiliau golygu cadarn.
• yn gallu cyfathrebu’n effeithiol ac yn meddu ar fedrau rhyngbersonol da i arwain, symbylu ac ysbrydoli cydweithwyr i wella’r modd y maent yn cyflwyno gwasanaeth
• yn gallu gosod cyfeiriad trwy wneud penderfyniadau effeithiol
• yn meddu ar fedrau rheoli amser a blaenoriaethu rhagorol er mwyn rheoli gweithgareddau lluosog
• yn meddu ar fedrau rhyngbersonol da sy’n eich galluogi i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol, a herio, darbwyllo a dylanwadu ar uwch reolwyr a rhanddeiliaid eraill yn adeiladol
• yn gallu cynnal effeithiolrwydd personol yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd heriol).

Mae’n ddymunol eich bod:

• yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) neu’n fodlon dysgu Cymraeg
• yn meddu ar ddealltwriaeth o frandio a chydymffurfio â brand
• yn profiad o reoli digwyddiadau ar draws amrywiol fformatau

Ymddygiadau allweddol

Dyma’r ymddygiadau allweddol ar gyfer y rôl hon:

• Gweld y darlun mawr
• Newid a gwella
• Arweinyddiaeth
• Cyfathrebu a dylanwadu
• Gwneud penderfyniadau effeithiol