MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig - Cymorth i Ddysgwyr

Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig - Cymorth i Ddysgwyr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig - Cymorth i Ddysgwyr
Disgrifiad swydd
Oriau rhan amser o 5 awr lan at llawn amser 37 awr - amser tymor

Dros dro hyd at 2 flwyddyn

Mae angen person brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymroddedig i gynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd fel Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig.

Mae angen cymhwyster lefel 2 mewn Gofal Plant. Byddai rhywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn fanteisiol.

Mae trwydded yrru lawn a defnydd o'ch cerbyd eich hun yn ystod oriau gwaith yn hanfodol.

Bydd disgwyl i chi weithio mewn lleoliadau addysg, ar draws y fwrdeistref, yn unol ag anghenion y Gwasanaeth Cymorth i Ddysgwyr.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Gallu sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg

Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2023

Cliciwch yma i gael Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

I wneud cais, cliciwch ‘Gwneud Cais Ar-lein’