MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr,
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Dysgu Dwyieithog  yn busnes

Cynorthwy-ydd Dysgu Dwyieithog yn busnes

Y Coleg Merthyr Tudful
Mae tîm Cymraeg y Coleg yn awyddus i gyflogi cynorthwyydd dosbarth brwdfrydig iawn i helpu i hyrwyddo'r Gymraeg o fewn yr adran Busnes. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd sefydlu perthynas barchus, ymddiriedus gyda disgyblion, gweithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.

Bydd yr ymgeisydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Busnes i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi'n dda yn ystod gweithgareddau yn y dosbarth a thu allan i'r dosbarth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr ymgeisydd yn cefnogi'r adran a'r tîm cwrs i ddarparu amgylchedd ysgogol a sicrhau bod pob dysgwr yn ennill ac yn cynnal ei sgiliau iaith Gymraeg.

Mae'r swydd am 35 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Dyddiad cau: 23/06/2023