Amdanom Ni
Coleg Merthyr Tudful yw un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru! Mae'n cynnig ystod eang o gyrsiau Safon Uwch, galwedigaethol, addysg uwch, proffesiynol, dysgu seiliedig ar waith a chyrsiau arbenigol i ddysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Rydym wedi'n lleoli yng nghanol Merthyr Tudful ac mae gennym ddilyniant rhagorol o'n hysgolion partner lleol. Rydym hefyd yn denu dysgwyr o bob rhan o'r cymoedd a rhanbarth de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Aberhonddu, Rhymni, Tredegar ac Aberdâr.
Mae ein cenhadaeth yn canolbwyntio i raddau helaeth ar drawsnewid bywydau drwy gydweithio ac rydym yn rhoi pwyslais mawr ar weithio gyda'n partneriaid - ysgolion, yr awdurdod addysg lleol, cyflogwyr rhanbarthol a'n cymuned leol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y profiad dysgu gorau posibl ac yn cyflawni ei botensial i'r eithaf.