MANYLION
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 3

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
CYFEIRNOD: LS023-1823

ADRAN YSGOLION
Ysgol Gynradd Gwaunfarren
Alexandra Avenue
Merthyr Tudful
CF47 9AF
E-bost: office@gwaunfarren.merthyr.sch.uk
Ffôn: 01685 351810
Nifer o Blant ar y Rhestr: 277
Pennaeth: Mr A. Lewis

Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 3
(Swydd Dros Dro)

32.5 Awr
Gradd 3 Pwynt Cyflog 7-12 (£22,369 - £24,496 FTE) = 76.82% o £22,369
Cyflog = £17,183.87 p.a. pro rata

Ar Gyfer Medi 2023

Mae Ysgol Gynradd Gwaunfarren yn chwilio am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu rhagorol, brwdfrydig ac ymroddedig.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n:

• Angerddol, sy'n barod i fod yn hyblyg, ac sydd â phrofiad helaeth o'r Cyfnod Sylfaen;
• Angerddol dros gydraddoldeb mynediad a chyfleoedd i bawb;
• Arddangos y gallu i ysbrydoli ein disgyblion i deimlo ymddiriedaeth, hyder a hunanwerth;
• Berchen ar sgiliau rheoli ymddygiad rhagorol ac sy'n gosod cynhwysiant wrth wraidd ei gwaith/ ei waith proffesiynol;
• Ymroddedig i gynyddu llwyddiant i bawb;
• Gweithio'n galed ac sy'n frwdfrydig, rhywun sy'n fodlon cefnogi pob agwedd o waith yr ysgol a'i hethos gofalgar cryf.
• Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm hynod o effeithiol;
• Gallu ymroi i weithio mewn ysgol sy'n ffynnu ac sy'n edrych tua'r dyfodol er mwyn arwain y sector drwy ddatblygu darpariaeth sy'n meithrin ein disgyblion;
• Cynnig ystod o sgiliau personol a medrau fydd yn cyfoethogi cymuned ein hysgol ni.

Gallwn gynnig:
• Plant brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu;
• Cydweithwyr, rhieni a llywodraethwyr cefnogol;
• Tîm ymroddedig a staff cryf eu cymhelliad;
• Swydd werthfawr i berson sy'n rhoi plant yn gyntaf.

Byddwn yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus y rhestr fer ymweld â'r ysgol drwy apwyntiad gyda'r Pennaeth a bydd gofyn iddynt ddysgu grwp bach o ddisgyblion.

Mae'r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad estynedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais yw: Dydd Gwener 9fed o Fehefin 2023
Trefnir y rhestr fer ar: Ddydd Llun y 12fed o Fehefin 2023
Arsylwi Gwers: Yr wythnos sy'n dechrau 19eg Mehefin 2023
Cynhelir y cyfweliadau ar: Ddydd Gwener 23ain Mehefin 2023

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Mr A. Lewis drwy ffonio 01685 351810 neu e-bostio office@gwaunfarren.merthyr.sch.uk

Gallwch gyflawni ffurflenni cais ar-lein www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio 01685 725199 rhaid eu dychwelyd erbyn dydd Gwener y 9fed o Fehefin 2023 fan bellaf a'u hanfon at: Gweinyddiaeth Adnoddau Dynol, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ffurflenni cais gan siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw ffurflen gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na ffurflen gais a gyflwynir yn Saesneg.

Os ydych yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad a wnewch chi gysylltu gydag human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk os gwelwch yn dda er mwyn rhoi gwybod i ni os hoffech chi i ni gynnal eich cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymroi i warchod a diogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cynhelir archwiliadau trwyadl iawn cyn pob apwyntiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.

Mae gofyn i bob un o'n gweithwyr gydymffurfio gyda'u dyletswyddau unigol a sefydliadol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol. Ni ddylid, ar unrhyw gyfrif, datgelu unrhyw faterion cyfrinachol na'u rhannu gydag unrhyw berson anawdurdodedig na chwaith gyda thrydydd parti un ai yn ystod eich cyflogaeth na chwaith wedi hynny heblaw mewn modd priodol yn ystod eich cyflogaeth neu os fydd yn ofynnol o ganlyniad i'r gyfraith,