MANYLION
  • Pwnc: Pennaeth Adran
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Heolgerrig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
DIRPWY BENNAETH

Ysgol Gynradd Gymunedol Heolgerrig (NAG 219)

ISR: L7 - L11

Llawn Amser/ Parhaol

Dyddiad Cau: Dydd Iau Mai'r 11eg

Yn eisiau erbyn mis Medi 2023

Mae'r Corff Llywodraethol am benodi dirprwy bennaeth rhagorol sydd â'r rhinweddau a'r sgiliau i alluogi'r ysgol hon sy'n gwella i gyflawni canlyniadau dyheadol ar gyfer ei disgyblion. Mae arnom angen ymarferydd cynradd rhagorol ac arweinydd a rheolwr ysbrydoledig i gynorthwyo'r pennaeth i adeiladu ar lwyddiannau'r ysgol a'i harwain i mewn i'w chyfnod datblygiad nesaf.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddianus:

• Hanes o arfer dosbarth rhagorol,
• Gweledigaeth glir o'r hyn sy'n gwneud ysgol ragorol,
• Gwybodaeth gyfredol am drawsnewid ADY a Chwricwlwm i Gymru ,
• Y gallu i ddysgu Cymraeg yn y Cwricwlwm Cynradd,
• Ymrwymiad i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru,
• Sgiliau arwain a rheoli ysbrydoledig,
• Hanes o weithredu mentrau newydd yn llwyddiannus gan gynnwys y cwricwlwm newydd,
• Dealltwriaeth ragorol o ddatblygiad y cwricwlwm, cynnydd ac asesu ac addysgeg,
• Y gallu i gydweithio â'r pennaeth ym mhob agwedd o waith yr ysgol,
• Y gallu i weithio'n effeithiol gyda staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.

Bydd y llywodraethwyr yn darparu cefnogaeth i'r ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn dangos ymrwymiad i weithio'n agos gyda'r pennaeth i ddarparu arweinyddiaeth o ansawdd uchel a'r addysg orau bosibl i ddisgyblion Ysgol Gymunedol Heolgerrig.

Mae'r swydd yn ddibynol ar wiriad GDG estynedig.

Gellir cael ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na Mai'r 11eg 2023 i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad |Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.Cysylltwch ar yr e-bost uchod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, a beichiogrwydd a mamolaeth.