MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

ARWEINYDD CODI SAFONAU, YSGOL UWCHRADD CYFARTHFA

ARWEINYDD CODI SAFONAU, YSGOL UWCHRADD CYFARTHFA

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
YSGOL UWCHRADD CYFARTHFA
HEO Y FRENHINES
MERTHYR TUDFUL

ARWEINYDD CODI SAFONAU
GRADD 4 SCP 13-17 (£24,948 - £26,845 Y FLWYDDYN PRO RATA)
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG
37 AWR YR WYTHNOS
(SCP13 H.Y.. 87.45% o £24,948 = £21,817 Y FLWYDDYN)

Mae Ysgol Uwchradd Cyfarthfa yn falch i anelu am y safonau addysg uchaf ar gyfer pob myfyriwr.
Mae ein cwricwlwm eang yn galluogi myfyrwyr 11-16 oed y cyfle i fwynhau amrywiaeth o bynciau a phrofiadau. Ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa yn ffynnu a bod y gorau y gallent fod o fewn amgylchedd cefnogol a heriol.
Rydym yn chwilio am Arweinydd Codi Safonau (bugeiliol) i gefnogi gwaith proffesiynol ein hathrawon
Dan system oruchwyliaeth gytûn: arwain o fewn yr ysgol i hyrwyddo ac ymateb i anghenion myfyrwyr er mwyn iddynt oresgyn rhwystrau yn eu dysgu er mwyn iddynt lwyddo yn academaidd. Cynorthwyo'r PC a chefnogi myfyrwyr er mwyn sicrhau bod bron pob myfyriwr yn llwyddo i gyrraedd eu potensial academaidd, wrth sicrhau eu lles corfforol ac emosiynol a hapusrwydd ym mywyd yr ysgol.
Bydd y gwaith yn digwydd mewn ystod o amgylcheddau ar draws yr ysgol.

Dyddiad cau:12 Mehefin 2023
Mae'r swydd yn gofyn am Wiriad GDG estynedig
Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 neu 01685 724667 (y tu allan i oriau swyddfa) a'u dychwelyd, ddim hwyrach nag Mehefin 5ed 12ig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg. Rhowch wybod os hoffech i'r cyfweliad gael ei wneud trwy'r Gymraeg at Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol/ hanfodol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na'r rheini a gyflwynir yn Saesneg.
Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.