MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Fideograffeg (siaradwr Cymraeg) CC/2337

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Fideograffeg (siaradwr Cymraeg)

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol/ Llawn Amser

Cyflog: £24,975 - £28,075

Bellach mae gan Goleg Cambria gyfle newydd, cyffrous iawn ar gyfer Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Fideograffeg sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’n tîm Marchnata yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Fideograffeg yn gyfrifol am reoli a datblygu holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyfredol y coleg, creu cynnwys a chynhyrchu adroddiadau misol.

Mae deiliad y swydd yn creu ac yn gweithredu cynnwys hynod ddeniadol; yn benodol fideos, ffotograffiaeth, graffeg ac animeiddiadau ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Coleg.

Mae’r swydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod postiadau a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn cael eu hateb yn briodol ac yn brydlon er mwyn gwella enw da.

Bydd deiliad y swydd yn gyfforddus yn ffilmio a golygu cynnwys fideo a bydd hefyd yn hyddysg mewn cynllunio cynnwys, cynhyrchu ac amserlennu, yn rhoi llawer o sylw i fanylion, menter, hunan-gymhelliant, syniadau creadigol a dylai allu gweithredu i derfynau amser tyn a heriol.

Gofynion Hanfodol
  • Lefel 3 neu uwch mewn Marchnata neu gymhwyster cysylltiedig neu fod yn barod i weithio tuag at gyflawni hynny
  • Iaith Saesneg TGAU gradd A-C (Lefel 4-9) neu gymhwyster cyfwerth
  • Iaith Gymraeg TGAU gradd A-C (Lefel 4-9) neu gymhwyster cyfwerth
  • Dylech fod yn hynod o gyfarwydd gyda llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol a datblygiadau digidol ac yn ceisio am ddatblygiadau newydd yn weithredol a dilyn y tueddiadau.
  • Profiad o greu fideo (cynllunio, ffilmio a golygu)
  • Dylech allu defnyddio rhaglenni Adobe Creative Cloud i greu cynnwys digidol e.e. Photoshop, Premier Pro, After Effects, Illustrator

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai