MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Testun: Addysg Bellach
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd Gwyddor Deunyddiau
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser(Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn gweithio’n rhan amser)
Cyflog: £28,751 - £44,442
Ydych chi’n beirianydd profiadol yn eich maes sydd ag enw da am ansawdd a rhagoriaeth?
Beth am ddefnyddio eich profiad i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf! Dechreuwch eich taith i addysg heddiw.
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi sgiliau peirianneg ond nad oes gennych chi brofiad addysgu, gadewch i ni eich cynorthwyo chi i ennill y cymwysterau addysgu angenrheidiol wrth rannu eich gwybodaeth a’ch profiad.
Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer darlithydd Gwyddor Deunyddiau i weithio yn ein cyfleuster peirianneg o’r radd flaenaf lle y gall ein myfyrwyr ddysgu yn mewn amgylchedd yr ystafell ddosbarth a’r gweithdy. Gan arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch chi’n addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau yn ôl y gofyn, ac yn darparu arweiniad addysgol, cymorth a chwnsela i bob myfyriwr. Byddwch chi’n aelod da o dîm ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol. Byddwch chi’n cysylltu â thiwtoriaid o feysydd busnes eraill ynghylch adnoddau, datblygu’r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, ac yn cwblhau ac yn cynhyrchu dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â chymhwyster Lefel 4 o leiaf mewnPeirianneg Ddeunyddiau neu Fecanyddol sydd â gwybodaeth a sgiliau i addysgu ystod o unedau BTEC craidd ac unedau deunyddiau arbenigol ar lefel HNC/Gradd (yn dibynnu ar y cymwysterau sydd gennych) gan gynnwys; dewis deunyddiau, profi deunyddiau a nodweddion deunyddiau. Byddwch chi’n gallu rhannu eich sgiliau a gwybodaeth am y diwydiant i grwpiau eang o brentisiaid a dysgwyr llawn amser. Bydd gennych yr awydd i ymgymryd â datblygu proffesiynol parhaus gan gynnwys dysgu sgiliau newydd ym maes peirianneg i gynorthwyo datblygu addysgu a dysgu ar draws yr adran, gan gynnwys cadw’n ymwybodol o’r datblygiadau newydd yn y diwydiant.
Gofynion Hanfodol
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

- Bod â chymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
- Gallu adnabod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol yn y gwaith
- Arddangos dealltwriaeth o ddatblygiadau presennol yn eich maes arbennigol a ffyrdd o gadw’n ymwybodol o’r datblygiadau hynny
- Adnabod cryfderau ac anghenion datblygu myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol o hynny
- Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu a pharatoi deunydd ysgrifenedig a gweledol effeithiol
- Creadigol, arloesol a llawn dychymyg gyda’r gallu i addasu i’r amgylchiadau newidiol a syniadau newydd