MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 3500
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Llanelli
Gradd:
Gradd A
Cyflog:
£25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£13.45 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
Oriau Contract:
15 awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Dewch i ymuno â'n tîm
Os ydych yn angerddol am fwyd ac yn meddu ar foeseg waith dda, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych gan fod ein tîm hunan-ysgogol ac ymroddedig angen Cynorthwyydd Arlwyo.
Wrth weithio i ni, bydd gennych y cyfle i weithio mewn amgylchedd prysur a chyffrous. Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo ein Cogydd i baratoi prydau maethlon a blasus, gan sicrhau cydymffurfiaeth â phob agwedd o Hylendid Bwyd ac Iechyd a Diogelwch. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys gosod a chlirio byrddau a chyflawni tasgau glanhau cyffredinol.
Os ydych yn gobeithio dechrau gyrfa mewn arlwyo neu hyd yn oed yn ystyried newid swydd, gallai'r rôl hon eich helpu i ddechrau ar y llwybr hwnnw.
Rydym angen person cymhellol ac ymroddedig sydd â:
- Y gallu i feithrin perthnasoedd da ag oedolion yn seiliedig ar barch cydfuddiannol
- Gwybodaeth sylfaenol o ddiogelwch bwyd (byddai hyn yn fantais, ond nid yw'n hanfodol gan y darperir hyfforddiant llawn)
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau pobl da
- Y gallu i weithio ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm
Bydd angen arnoch:
- Agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd. Darperir hyfforddiant i gyrraedd y safonau
- Hyblygrwydd a pharodrwydd i gynorthwyo gyda dyletswyddau arlwyo eraill
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:
Joanna Szubka, Rheolwr Cartref Gofal Caemaen
01554 771835
Disgrifiad Swydd:
012083 catering profile.pdf - 135KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 05/07/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.