MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria - cross site,
- Testun: Addysg Bellach
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth ...
Teitl y Swydd: Is-bennaeth Sgiliau Academaidd
Lleoliad: Mae’r swydd hon yn cael ei lleoli ar draws bob safle
Math o Gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Cyflog: £82,845 - £88,701
Mae’r swydd hon yng Ngholeg Cambria yn cymryd cyfrifoldeb dros y strategaeth twf a rheoli cyflwyno ein rhaglenni Addysg Uwch a Mynediad yn ogystal â chyflwyno Safon Uwch ar draws ein holl safleoedd. Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad o reoli ac arwain a dealltwriaeth o’r dirwedd addysgol. Rhywun sydd wedi ymrwymo i’r lefelau uchaf o ansawdd, perfformiad a safonau ac sy’n gallu cydweithio gyda phartneriaid allweddol i dyfu’r ddarpariaeth cwricwlwm.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

- Darparu rheoli strategol a gweithredol rhagorol o’r Gyfarwyddiaeth trwy arwain a datblygu, cynllunio, cyflwyno a monitro cwricwlwm Safon Uwch ac AU a’r profiad myfyrwyr.
- Bod yn gwbl atebol i'r Dirprwy Brif Weithredwr - Pennaeth i sicrhau bod y cwricwlwm yn bodloni anghenion cyflogwyr lleol; blaenoriaethau lleol a chenedlaethol; cynorthwyo’r cymunedau lleol; mynd i’r afael â phob grŵp oedran a gallu: bodloni targedau a osodwyd wrth gynllunio Cwricwlwm a Busnes; adnabod gofynion a chyfleoedd y dyfodol.
- Datblygu a monitro cynlluniau strategol a chynlluniau gweithredu i fodloni gofynion cenedlaethol ar gyfer safonau ansawdd ar draws addysgu a dysgu. Ymateb i ofynion cyrff ansawdd allanol fel Estyn, Ofsted ac Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).