MANYLION
  • Lleoliad: St. David's Park, Carmarthen,
  • Pwnc: Seicoleg
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Seicolegydd Addysg Cynorthwyol

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Swydd Cyllid Grant hyd at 31/03/2027

Soulbury Gradda SAC, Pwyntiau 1-4, (£30,694 - £34,448) Gwobr Talu Tra'n Aros

Yn ogystal â darparu Gwasanaeth Ymgynghori arloesol i Ysgolion a Thimau Gwaith Cymdeithasol Plant mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a Phlant yn cymryd rhan mewn mentrau allweddol i gefnogi gweithredu person-ganolog, gydag egwyddorion cynhwysol y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, gan gynnwys ELSA a goruchwyliaeth Trawma Wybodus.

Diben swydd y Seicolegydd Addysg Cynorthwyol yn bennaf yw cynorthwyo'r Seicolegydd Addysg a Phlant o randarparu cyngor arbenigol, cyfarwyddyd, hyfforddiant a chymorth i ysgolion, plant a phobl infanc a'u teuluoedd, ac i bobl broffesiynol eraill mewn perthynas â diwallu'r ystod lawn o anghenion datblygu ac addysgol ychwanegol o fewn awdurdod lleol cynhwysol.

Hefyd mae'r rôl yn cynnwys briff ehangach o ran sicrhau'r datblygiad dysgu gorau posib ar gyfer pob plentyn ac atal anawsterau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae'n bosibl y bydd dyletswyddau penodol a phwyslais y swydd yn newid yn unol ag anghenion a chyfrifoldebau newidiol yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant a'r gymuned yn gyffredinol.

Byddai disgwyl i ddeiliad y swydd ymgymryd â'r ystod lawn o weithgareddau ymgynghori, gan gynnwys asesu, datrys problemau ar y cyd, gwaith achos, hyfforddiant, hyfforddi, cefnogi'r gwaith o gyflawni ymyriadau penodol yr ydych wedi cael eich hyfforddi ynddynt, tasgau sy'n ymwneud ag ymchwil a phrosiectau, a hynny o dan oruchwyliaeth seicolegydd addysg HCPC cofrestredig a

chymwys.

Bydd hyn yn galluogi deiliad y swydd i gael profiad perthnasol cyn gwneud cais am le ar gwrs hyfforddi

cydnabyddedig ar gyfer Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysg.

Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu gan grant ar hyn o bryd a bydd yn gweithio'n bennaf o fewn y Tîm Iechyd Emosiynol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal gan ddefnyddio arferion Ymwybodol o Ymlyniad ac arferion Ymwybodol o Drawma i gefnogi llesiant emosiynol plant a pobl ifanc o dan oruchwyliaeth Uwch-seicolegydd Addysg a Phlant. Bydd cyfleoedd hefyd i weithio gyda'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant cyfan.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ac i fod wedi cael hyfforddiant mewn ymyriadau therapiwtig gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd/gofalwyr yn ddymunol a darparir cymorth i ddysgu.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: