MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Glanhawr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Arweinydd Tîm Glanhau

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Arweinydd Tîm Glanhau

Lleoliad: 1x Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Graddfa Gyflog: £25,965 - £28,075

Yma yng Ngholeg Cambria, rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Glanhau i gynorthwyo’r Pennaeth Ystadau i gynnal a chadw safon uchel o lanhau ar draws safleoedd y coleg, yn enwedig ar safle Iâl/Ffordd y Bers a Llaneurgain/Llysfasi.

Trosolwg o’r Swydd

Wrth weithio fel rhan o’n Tîm Cyfleusterau ar draws y coleg, byddwch yn goruchwylio ac yn rheoli staff glanhau ac yn adolygu a monitro gwaith glanhau, safonau ac arferion i sicrhau bod y safleoedd yn lan, diogel ac yn cael eu cynnal a’u cadw ar gyfer ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â dealltwriaeth o brosesau glanhau, Iechyd a Diogelwch ac sy’n ymfalchïo yn eu gwaith gan sicrhau safonau uchel. Fel Arweinydd Tîm Glanhau, byddwch yn rhan o waith recriwtio, rheoli’r staff glanhau a byddwch yn cysylltu â’r Tîm Technegydd Ystadau a’r Swyddogion Ystadau i adrodd neu fynd i’r afael ag unrhyw ofynion cynnal a chadw neu ddifrod.

Gofynion

Sgiliau cyfathrebu a sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol a’r gallu i gysylltu gyda staff ar bob lefel
Unigolyn sy’n aelod cadarn o dîm sydd â’r gallu i weithio gydag eraill yn effeithiol
Gallu cynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith
Asesu a gwerthuso gwybodaeth
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.