MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend Campus,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa gyflog 2: £25,948 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynghorwyr Gwasanaeth Cwsmer (Cymraeg yn Hanfodol)

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa gyflog 2: £25,948 y flwyddyn

Cynghorwyr Gwasanaeth Cwsmer (Cymraeg yn Hanfodol)

Graddfa gyflog 2: £25,948 y flwyddyn
Llawn Amser (37 awr y wythnos) a Pharhaol
Dydd Llun - Dydd Gwener ar sail rota 8yb - 8yp



Diben y swydd: Darparu gwasanaeth cymorth rhagorol (Cymraeg a Saesneg) i holl fyfyrwyr a randdeiliadau Coleg Penybont.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
  • Y gallu i ateb galwadau ffôn, ymholiadau a negeseuon sgwrs fyw yn hyderus yn Gymraeg
  • Y gallu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid
  • Y gallu i weithredu systemau gweinyddu
  • Dealltwriaeth o Google Suite
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Gwydnwch
  • Chwaraewr tîm

Os ydych yn credu y gallech gyfrannu at y tîm cefnogol hwn, hoffem glywed gennych!

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.