MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Pwnc: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Technegydd Celf a Dylunio

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Technegydd Celf a Dylunio
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Parhaol / Lawn Amser
Graddfa Gyflog: £23,088 - £24,778
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Dechnegydd Celf a Dylunio i ymuno â‘n tîm ar ein safle Iâl yn Wrecsam.
Fel Technegydd Celf a Dylunio byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth technegol ar gyfer pob cwrs Celf a Dylunio. Bydd y swydd hon hefyd yn gyfrifol am wirio cyfleusterau ac adnoddau o ddydd i ddydd i sicrhau gwaith ‘cynnal a chadw’ rheolaidd yn y gweithdai a’r stiwdios, er mwyn sicrhau amgylchedd gwaith diogel a threfnus i staff a myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am lefelau stoc adnoddau, archebu deunyddiau a chadw cofnodion.
Dyma gyfle gwych i gymryd rhan mewn gweithredu a monitro Iechyd a Diogelwch mewn gweithdai yn y coleg a chydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Gofynion Hanfodol
Safon dda o addysg ar lefel 3 neu uwch, gan gynnwys cymhwyster celf a dylunio perthnasol.
Profiad helaeth o gynnal cyfarpar gweithdy mawr gan gynnwys gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Profiad o weithio mewn amgylchedd Celf a Dylunio.
Profiad o ddarparu cymorth technegydd mewn lleoliad addysgol neu broffesiynol.
Yn ddelfrydol bydd gennych chi HNC mewn pwnc Celf a Dylunio a dealltwriaeth dda o Iechyd a Diogelwch o ran technegau a phrosesau Celf a Dylunio.
Byddwch yn gallu defnyddio rhaglenni MS Office ac yn ddelfrydol rhaglenni Google a defnyddio’r rhyngrwyd.
Mae’n hanfodol bod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, eich bod yn aelod cadarn o dîm a’ch bod yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.


Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.