MANYLION
  • Lleoliad: Blaenau Childrens Centre, Ammanford,
  • Testun: Datblygiad y Plentyn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant x 2

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant x 2

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Nifer amrywiol o oriau ar gael

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc?

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth preswyl plant Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn ein darpariaeth breswyl ac yn cydweithio â'r gwasanaethau i oedolion i sicrhau proses bontio gadarnhaol i oedolion ifanc ag anghenion ac anableddau cymhleth. Rydym yn chwilio am staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio yn y rôl werth chweil ond heriol hon. Byddwch yn dod yn rhan o dîm sy'n darparu amgylchedd ysgogol a meithringar i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Nid yw'n hanfodol bod gennych brofiad blaenorol o weithio mewn cartrefi preswyl gan ein bod yn cydnabod bod unigolion yn dod ag ystod eang o brofiadau a sgiliau trosglwyddadwy. Rydym yn cynnig pecyn ymsefydlu a hyfforddi ardderchog, gan gynnwys eich cefnogi i ennill cymhwyster lefel 3 mewn gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc, os nad oes gennych hyn eisoes.

Bydd gofyn i chi weithio sifftiau ar sail rota. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Victoria Griffiths on 01269 850789 / vcgriffiths@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch Lawrlwythiadau isod i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio i ymgeisio am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: