MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Tiwtor
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £13,311 - £14,649
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Tiwtor/Asesydd Busnes a Chyfrifeg

Tiwtor/Asesydd Busnes a Chyfrifeg

Coleg Gwyr Abertawe
0.5 swydd rhan amser
Swydd barhaol wedi'i lleoli yn Ysgol Fusnes Neuadd Sgeti

Mae gyfle cyffrous wedi codi i Diwtor/Asesydd o fewn ein darpariaeth Prentisiaethau Cyfrifeg ar gampws Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Bydd gennych ymagwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am y fframwaith perthnasol. Yn ogystal â hyn, byddwch yn medru cyflwyno cymwysterau AAT ar bob lefel sy’n berthnasol i’r rhaglen brentisiaeth. Yn ddelfrydol, byddwch yn gyfarwydd â gofynion gweinyddol y rhaglenni prentisiaeth a bydd gennych brofiad o ddarparu/asesu cymwysterau NVQ.

Byddwch yn gweithio â chwsmeriaid allanol o fewn y diwydiant i ddiwallu eu hanghenion a chynorthwyo gyda chynnal prosesau Sicrhau Ansawdd mewnol, gan sicrhau bod pob un o ofynion y cyrff dyfarnu a’r Dilysydd Allanol yn cael eu bodloni.

Yn ddelfrydol, bydd gennych neu byddwch yn barod i weithio tuag at gymhwyster AAT a dyfarniad A1 aseswr/gwiriwr V1. Mae cymhwyster Lefel 2 (gradd A-C) neu gymhwyster cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, ynghyd â sgiliau TGCh cadarn a’r gallu i ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr, gan drosglwyddo eich gwybodaeth iddynt. Gyda llygad dda am fanylder, byddwch yn sicrhau ansawdd a chwblhau targedau.

Mae'r swydd hon yn un Gymraeg Hanfodol (gweler y disgrifyddion lefel iaith atodedig), fodd bynnag, byddwn yn ystyried ymgeiswyr nad ydynt ar y lefel hon ond a fyddai’n barod i weithio tuag ati

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).