MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Swyddog Cyfathrebu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyfathrebu Marchnata

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Gweithio gyda’r Tîm Marchnata a Derbyn i sicrhau bod y Coleg yn manteisio i’r eithaf ar recriwtio dysgwyr trwy ymgymryd ag ystod eang o weithgarwch cyfathrebu marchnata.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymgyrchoedd cyfathrebu marchnata gan ddefnyddio platfformau all-lein a digidol.

Llawn Amser - 37 Awr
Cyfnod Penodol
£28,357.00 - £30,277.00
TyCoch, SA2 9EB

Cyfrifoldebau Allweddol:

Datblygu, gweithredu a gwerthuso ystod eang o weithgareddau marchnata ar gyfer cynulleidfaoedd targed allweddol y Coleg, er mwyn cyflawni targedau recriwtio drwy ddulliau all-lein a digidol.
Datblygu, gweithredu a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata i hwyluso cyfnodau allweddol y flwyddyn academaidd e.e. nosweithiau agored, gweithgareddau recriwtio ac ymgyrchoedd tymhorol.
Cynllunio, cydlynu a chefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau rhanddeiliaid, gan gynnwys nosweithiau agored, seremonïau gwobrwyo a graddio yn ogystal â digwyddiadau sy’n adlewyrchu cyflawniadau dysgwyr Safon Uwch/TGAU.
Gweithio â Dylunydd graffeg i greu deunydd marchnata, gan gynnwys asedau digidol.

Amdanoch chi:

Gradd neu gymhwyster cyfwerth.
Cymhwyster cydnabyddedig mewn Marchnata/Cysylltiadau Cyhoeddus neu brofiad cyfatebol.
Profiad o gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu marchnata integredig.
Hanes o greu deunyddiau marchnata ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.

Buddion:

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun gweithio hyblyg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.


Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).