MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,351 - £32,895
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Yn y rôl amrywiol gyffrous hon yn Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales byddwch yn cynorthwyo i gynorthwyo a chefnogi datblygiad rhanbarthol a gweithrediad o raglen gydlynol o ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned wyneb yn wyneb/ar-lein/cymysg yn ardaloedd daearyddol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gaerfyrddin.
Mae hon yn rôl ymarferol, gan weithredu'n gyflym, byddwch yn allweddol wrth gynorthwyo'r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau bod yr holl weithgareddau dysgu yn bodloni’r targedau darpariaeth, cyllid ac ansawdd.

Mae’r 3 ardal yn y rhanbarth hwn yn cynnig cyfleoedd gwahanol i ddatblygu’r cwricwlwm, gallai hyn fod o ddatblygu darpariaeth ddwyieithog a Chymraeg, cefnogi ein Mudiad Gwirfoddol drwy ein ‘Canghennau’ a chefnogi datblygiad cwricwlwm o fewn ein canolfan alwedigaethol lewyrchus ar gyfer adeiladwaith ysgafn (saernïaeth a gwaith coed).
Gweithio’n agos â thimau cymorth busnes i nodi, cefnogi a chydlynu lleoli tiwtoriaid o fewn y darpariaeth ranbarthol, cefnogi a chynorthwyo gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA), i sicrhau bod dysgwyr yn cael y budd mwyaf o wasanaethau cymorth y sefydliad.
Byddwch yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid rhanbarthol allweddol o fewn y rhanbarth, diwydiant preifat, cyrff statudol a gwirfoddol i gefnogi’r datblygiad parhaus o recriwtio nifer hyfyw o ddysgwyr i'r rhaglen cwricwlwm.

JOB REQUIREMENTS
Os oes gennych y sgiliau cywir, yn mwynhau her, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.