MANYLION
  • Lleoliad: Chepstow, Monmouthshire, NP16 5EN
  • Testun: Cynghorydd Cyswllt Busnes
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £27,539.00 - £33,171.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Rydym yn recriwtio Cynghorydd Cyswllt Busnes

Rydym yn recriwtio Cynghorydd Cyswllt Busnes

Gyrfa Cymru
Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr?

Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu rhagorol?

Allwch chi egluro sut gall busnesau a chyflogwyr ymgysylltu ag addysg?

Ydych chi am wneud cyfraniad allweddol at godi ymwybyddiaeth dysgwyr o natur newidiol y byd gwaith, y sgiliau sydd eu hangen a’r cyfleoedd sydd ar gael?

Gallai’r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi!

Rydym yn recriwtio Cynghorydd Cyswllt Busnes
Cyflog £27.539 y flwyddyn
Swyddi dros dro hyd 31 Mawrth 2024.

Mae gennym swydd llawn amser (37 awr yr wythnos) wedi’I leoli yn Ne Ddwyrain Cymru.

Fel Cynghorydd Cyswllt Busnes, byddwch yn helpu i lywio, ysbrydoli a chymell pobl ifanc gyda’u cyfleoedd gyrfa.

Bydd eich sgiliau fel Cynghorydd Cyswllt Busnes yn helpu i:
• Newid agweddau disgyblion at addysg
• Cymell pobl ifanc i astudio yn galetach a sicrhau graddau gwell o bosibl
• Dylanwadu ar gynlluniau gyrfa disgyblion a’u dewisiadau pwnc
• Dod â rhannau o’r cwricwlwm yn fyw
• Helpu pobl ifanc i greu cysylltiadau rhwng eu gwersi a’r byd gwaith
• Codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael a sut i fanteisio arnynt
• Cyflwyno pobl ifanc i fodelau rôl a fydd yn eu hysbrydoli
• Herio syniadau am rywedd, hil ac anabledd sy’n cyfyngu ar ddewisiadau gyrfa.

Rydym yn chwilio am unigolion a fydd yn nodi, sefydlu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda rhwydwaith o gyflogwyr a’u cyrff proffesiynol i gefnogi darpariaeth gwasanaethau ymgysylltu â chyflogwyr.

Bydd y Cynghorydd Cyswllt Busnes sy'n gweithio yn y rôl hon yn gweithio'n benodol ar y prosiect Profiad Gwaith wedi'i Deilwra, gan gysylltu ag ysgolion, dysgwyr a chyflogwyr i drefnu lleoliadau gwaith parhaus i bobl ifanc.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol i gadw mewn cysylltiad â chyflogwyr a chydweithwyr gan sicrhau bod gwasanaethau ymgysylltu â chyflogwyr yn cael eu cydlynu, eu cofnodi a’u rheoli yn briodol.

Mae’r buddion deniadol yn cynnwys:
Amser hyblyg
31 diwrnod o wyliau blynyddol
Cynllun pensiwn cyfrannol
Cynllun arian yn ôl cysylltiedig ag iechyd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi’i addysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol megis cymwysterau proffesiynol neu bydd â phrofiad amlwg o gydlynu a delio â chyflogwyr.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni

Rydym ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth cywir i'w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel iawn, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydym ni'n ei wneud dros bobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sydd, ar bob gradd swydd, yn cynrychioli'r dinasyddion rydym ni'n eu gwasanaethu.

Anfonwch geisiadau wedi’u cwblhau at HR@gyrfacymru.llyw.cymru erbyn 9am ar 20/03/2023

Noder nad ydym yn derbyn ceisiadau CV.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy'n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae'r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda'r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal drwy'r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i'r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni